Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Domestig Cyflenwi (dyddiad cau: 31/03/23)

Tâl o £10.79 yr awr. Mae'r Tîm Cefnogaeth Adnoddau (TCA) yn recriwtio ar gyfer nifer o Gweithiwr Domestig Cyflenwi i weithio ar draws y gwasanaethau i oedolion mewn cartrefi preswyl amrywiol yn Abertawe.

Teitl y swydd: Gweithiwr Domestig Cyflenwi
Rhif y swydd: SS.65794
Cyflog: £20,812 per annum (pro rata)
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd Gweithiwr Domestig Cyflenwi (SS.65794) (PDF) [854KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.65794

Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Mawrth 2023

Mwy o wybodaeth

Ai chi yw'r person rydym wedi bod yn chwilio amdano? Allech chi fod yn rhan o'n tîm llwyddiannus a chyfeillgar?

  • Ydych chi'n berson llawn cymhelliant a brwdfrydedd?
  • Ydych chi'n ymfalchïo mewn helpu eraill i gynhyrchu bwyd maethlon da i eraill?
  • Ydych chi'n berson sy'n hoffi cwmni eraill ac yn hoffi gweithio gydag eraill?
  • A yw helpu i wneud pobl yn hapus yn bwysig i chi?
  • Ydych chi'n berson caredig, gofalgar/cyfeillgar ac ystyriol?

Beth gallwn ni ei gynnig i chi?

  • Cefnogaeth a hyfforddiant llawn
  • Cyfnod sefydlu trylwyr
  • Gweithio fel rhan o dîm sefydledig
  • Oriau a diwrnodau hyblyg a fydd yn addas i chi
  • Cyfraddau tâl da (o) £10 yr awr
  • Ychwanegiadau tâl am oriau anghymdeithasol/penwythnosau a gwyliau banc

Yng Nghyngor Abertawe ceir egwyddor "Mae diogelu'n fusnes i bawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.  Mae manylion pellach ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

  
  

 

Close Dewis iaith