Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiadau i'r wasg Medi 2021

Busnesau'n croesawu cynlluniau gwerth £750m i adfywio Abertawe

Mae arweinwyr busnesau yn Abertawe wedi croesawu penodiad cwmni adfywio arobryn i arwain ar y gwaith trawsnewid gwerth £750m ar sawl safle datblygu allweddol.

Cadarnhau sioeau Bishop a Mabuse ar gyfer Arena Abertawe

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer sioeau'r perfformwyr diweddaraf i gael eu cyhoeddi gan Arena Abertawe ar gyfer rhaglen 2022.

Ceisio barn ar gynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Gofynnir i rieni, disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach am eu barn ar gynlluniau i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn Abertawe.

Cwmni arobryn yn cael ei benodi i arwain gwaith adfywio Abertawe gwerth £750m

Mae cynigion gwerth £750m i drawsnewid canol dinas Abertawe ymhellach a datblygu cartrefi ac atyniadau newydd ar hyd yr arfordir a glan yr afon wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Coed newydd yn cael eu plannu yn y parc arfordirol wrth i ganol y ddinas fynd yn wyrddach fyth

Mae coed newydd yn cael eu plannu'n awr ym mharc newydd cyntaf canol dinas Abertawe ers y cyfnod Fictoraidd.

Canol y ddinas wedi ei drawsnewid yn 'fwy deniadol' i fusnesau

Mae cwmni nid er elw o Abertawe sy'n arbenigo mewn adfywio yn dweud bod y gwaith gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid canol y ddinas yn ei gwneud yn lle gwell i fyw, gweithio a gwneud busnes ynddo.

Cydlynwyr Ardaloedd Lleol bellach yn gwasanaethu pob rhan o Abertawe

Mae pedwar Cydlynydd Ardal Leol arall wedi'u recriwtio, sy'n golygu y gall y rhwydwaith bellach roi cefnogaeth i bob cymuned yn Abertawe.

Sêr cerddoriaeth, comedi a dawns yn cael eu cadarnhau ar gyfer Arena Abertawe

Mae tocynnau bellach ar werth i'r cyhoedd ar gyfer sêr y byd cerddoriaeth, comedi a dawns yn Arena Abertawe.

Cynllun i gefnogi twf addysg Gymraeg yn barod i ymgynghori arno

Gofynnir i rieni, disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach am eu barn ynghylch cynlluniau i barhau i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn Abertawe.

Aelodau panel yn awyddus i glywed barn preswylwyr am helbul

Ddydd Llun bydd preswylwyr lleol Mayhill a Waun Wen yn cael eu cyfle cyntaf i siarad ag aelodau panel adolygu ar y cyd annibynnol am yr helbul a fu yn y gymuned yn gynharach eleni.

Newidiadau i fesurau Covid-19 yn ysgolion y ddinas

Mae nifer o fesurau a ddefnyddiwyd i helpu i gadw disgyblion a staff yn ddiogel mewn ysgolion yn ardal Bae Abertawe y tymor diwethaf i'w cadw.

Un o fusnesau'r ddinas yn 'gyffrous' i fod yn rhan o stori Abertawe

Mae'r gwaith parhaus i adfywio Abertawe trwy gydol y pandemig wedi bod yn 'hwb go iawn' i'r ddinas, yn ôl busnes lleol.

Prosiect gwyddorau bywyd gwerth miliynau o bunnoedd yn disgwyl cael ei gymeradwyo

Mae cynlluniau mawr yn datblygu ar gyfer prosiect campysau gwyddorau bywyd, lles a chwaraeon newydd gwerth £132 miliwn, y disgwylir iddo greu dros 1,000 o swyddi.

Cynigion defnydd cymysg yn cael eu cefnogi ar gyfer canol y ddinas

Datgelwyd camau ar gyfer datblygiadau a buddsoddiadau canol dinas Abertawe ar gyfer y dyfodol fel cyrchfan defnydd cymysg gyda buddsoddiad mewn ffordd o fyw, profiadau teuluoedd a manwerthu er mwyn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.

Bywyd newydd i siopau'r Stryd Fawr

Mae cryn gynnydd wedi'i wneud wrth adnewyddu rhes o hen adeiladau masnachol ar y Stryd Fawr fel y gellir eu defnyddio eto.

Y cyngor yn gweithio gydag ysgolion wrth i'r tymor ddechrau

Mae Cyngor Abertawe yn parhau i weithio gyda'i holl ysgolion i sicrhau bod disgyblion a staff mor ddiogel â phosib wrth iddynt ddychwelyd ar ôl gwyliau'r haf.

Mynegwch eich barn am lwybrau cerdded a beicio newydd yn Abertawe

Gall preswylwyr yn Abertawe ddweud ble maent am weld llwybrau cerdded a beicio newydd fel rhan o ymgynghoriad ar draws y ddinas.

Cynnig #BysusAmDdimAbertawe i ddychwelyd ar gyfer y Nadolig a hanner tymor

Mae ffigurau newydd wedi dangos bod mwy na 220,000 o deithwyr wedi manteisio ar gynnig arloesol #BysusAmDdimAbertawe ein dinas.

Bws di-garbon yn anelu am Abertawe

Mae bws trydan 100% yn anelu am Abertawe i rannu'r neges am yr argyfwng hinsawdd - a gall busnesau ledled y ddinas fod yn rhan ohono.

Rhagor o gymorth ar gael gan grantiau tlodi bwyd

Mae gan elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd yn Abertawe gyfle arall i wneud cais am gymorth ariannol.

Bwrdd yn ceisio barn ar ansawdd bywyd i helpu i lunio gwasanaethau'r ddinas

Gofynnir i breswylwyr o bob oed ledled Abertawe am eu barn ar ansawdd bywyd a lles yn y ddinas a'r hyn y gellir ei wneud i'w gwella.

Rhagor o leoedd chwarae i wella ein parciau

Bydd pedair ardal arall yn Abertawe'n cael lleoedd chwarae newydd i blant neu ardaloedd chwarae wedi'u hadnewyddu fel rhan o becyn buddsoddi gwerth £2m gan Gyngor Abertawe.

Gredwch chi fyth pa fargeinion sydd ar gael yn siop Trysorau'r Tip!

Mae hoff siop ailddefnyddio Abertawe, Trysorau'r Tip yn Llansamlet, wedi bod yn destun estyniad a gwaith adnewyddu er mwyn iddi gynnwys adrannau newydd ar gyfer cynnyrch pren a ailddefnyddiwyd a dillad dylunwyr.

Gwobr bwysig ar gyfer cartrefi cyngor arloesol

Mae Cyngor Abertawe wedi ennill un o wobrau pwysicaf y DU am adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cyngor sydd ymysg y rhai mwyaf ynni-effeithlon yn y wlad.

Profion goleuo'n dechrau yn Arena Abertawe

Mae profion goleuo rhannol cynnar wedi cychwyn bellach yn Arena Abertawe wrth i gynnydd ar y safle gyflymu.

Preswylwyr Abertawe'n dweud y byddant yn parhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus

Mae llawer o breswylwyr Abertawe a wnaeth fanteisio ar gynnig bysus am ddim trwy gydol yr haf wedi dweud y byddant yn parhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Cynllun i gefnogi twf addysg Gymraeg yn barod i ymgynghori arno

Bwriedir gofyn i rieni, disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach am eu barn ynghylch cynlluniau i barhau i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn Abertawe.

Sêr rygbi'n ymuno â swyddogion iechyd i annog pobl i gael eu brechu wrth i nifer yr achosion COVID yn Abertawe gyrraedd y lefel uchaf erioed

Mae nifer yr achosion COVID yn Abertawe wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed - ac maent yn parhau i godi yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Penaethiaid iechyd yn annog pobol i gael eu brechu cyn y Nadolig

Mae pobl sydd heb gael eu brechiad COVID-19 cyntaf yn cael eu hannog i gael y pigiad yn awr yn barod ar gyfer y cyfnod cyn y Nadolig.

£21m yn ychwanegol i'w wario ar gefnogi gwasanaethau COVID-19 yn Abertawe

Disgwylir i Gyngor Abertawe wario £21m yn ychwanegol ar gefnogi gwasanaethau COVID-19 hanfodol yn y flwyddyn sydd i ddod, yn ôl adroddiad newydd a fydd yn mynd gerbron y Cabinet yr wythnos nesaf.

Fodurwyr i elwa o brif ffordd wedi'i gwella wrth i waith ar yr arena fynd rhagddo

Cyn bo hir bydd gan fodurwyr arwyneb newydd llyfn ar ffordd allweddol yn Abertawe wrth i un o brif byrth y ddinas gael ei adnewyddu.

Cymeradwyaeth i'r ardal chwarae ddiweddaraf i'w gwella

Mae plant ym Mhlas-marl wedi cymeradwyo ardal chwarae sydd newydd gael ei gwella ym Mharc Montana.

Ras 10k glan môr yn dod i Abertawe ddydd Sul

Ddydd Sul bydd ras arobryn 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd.

Mwy o hwyl yn yr awyr agored wrth i atyniadau awyr agored estyn eu cyfnodau haf

Gall pobl sy'n mwynhau gweithgareddau awyr agored fwynhau atyniadau Cyngor Abertawe am fwy o amser na'r disgwyl yr haf hwn.

Rhedwyr a chefnogwyr ar lan môr Abertawe ar gyfer ras 10k flynyddol lwyddiannus

Roedd rhedwyr a gwylwyr ar strydoedd Abertawe heddiw (ddydd Sul) ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral - oedd â thema liwgar yr 1980au.

Pobl greadigol Abertawe'n gallu gwneud cais am hyd at £1,500 o gymorth newydd gan y cyngor

Gall sefydliadau diwylliannol a phobl greadigol hunangyflogedig yn sectorau celfyddydau a threftadaeth Abertawe wneud cais am hyd at £1,500 i'w helpu i gyflwyno'u gwaith i gynulleidfaoedd newydd.

Artist yn helpu i ddathlu straeon menywod dylanwadol Abertawe

Mae un o artistiaid Abertawe, Patti McKenna, yn defnyddio adfywiad un o dirnodau'r ddinas i ddathlu bywydau menywod lleol.

Adran dillad ail-law gan ddylunwyr adnabyddus yn Nhrysorau'r Tip wedi'i hehangu

Gall y rheini sy'n frwd dros ddillad cynaliadwy gael cyfle i brynu dillad ail-law gan ddylunwyr adnabyddus yn adran ddillad hoff siop ailddefnyddio Abertawe sydd newydd gael ei hehangu.

Pum cymuned ar fin gweld eu hardaloedd chwarae'n cael eu hailwampio

Bydd 5 cymuned yn Abertawe'n cael ardaloedd chwarae newydd neu adnewyddedig fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2m gan Gyngor Abertawe.

Disgyblion yn cael cipolwg ar waith adeiladu gwerth £9.9m ar gyfer ysgol newydd

Mae disgyblion ysgol gyfun wedi cael cipolwg ar y diwydiant adeiladu diolch i gontractwyr sy'n gweithio ar godi ysgol gyfun Gymraeg newydd gwerth £9.9m yn Abertawe.
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • o 2
  • Nesaf tudalen
Close Dewis iaith