Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Bwydo adar

Mae bwydo'r adar yn eich gardd yn werthfawr er mwyn cadw niferoedd yr adar, yn enwedig yn ystod y misoedd oerach. Yn anffodus, mae cnofilod hefyd yn mwynhau bwyd adar felly rydym wedi llunio canllawiau ar gyfer sut i wneud yn siŵr eich bod yn bwydo'r adar yn unig.

Does dim cyfraith i atal aelodau'r cyhoedd rhag bwydo adar gwyllt. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod o hyd i'r ffordd orau i fwydo'r adar, mae gan wefan yr RSPB (Yn agor ffenestr newydd) gyngor ar yr hyn y mae adar yn ei fwyta, pryd i'w bwydo a'r ffyrdd gorau o roi bwyd allan iddynt.

Adar

Y ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n gwarchod adar yn y DU yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.Mae adar, eu nythod a'u hwyau wedi'u gwarchod gan y gyfraith, ac mae'n anghyfreithlon i ddinistrio neu darfu arnynt oni bai fod gennych drwydded. Os ydych yn cael trafferth gydag adar yn eich ardal, mae gan wefan yr RSPB wybodaeth am opsiynau ataliol (Yn agor ffenestr newydd). I gael cyngor pellach, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen rhoi gwybod am broblem llygredd.

I gael gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer deiliaid tai ynghylch bwydo gwylanod, dilynwch y ddolen.

Cnofilod

Os hoffech fwydo'r adar yn eich gardd ond rydych am osgoi cnofilod, mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud.

  • Dylech gael gwared ar unrhyw gysgod a bwyd yn eich gardd - mae llygod mawr a llygod yn aml yn crwydro gyda'r hwyr, felly bydd cael gwared ar unrhyw fwyd bob nos yn helpu i'w hatal. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw fannau cysgod defnyddiol yn eich gardd y bydd llygod mawr a llygod am symud i mewn iddynt.
  • Peidiwch â rhoi gormod o fwyd allan - rhowch ddigon o fwyd adar i bara diwrnod, fel na fydd unrhyw wastraff bwyd ar ôl. Gwnewch yn siŵr bod yr hyn rydych chi'n rhoi allan yn addas i adar a pheidiwch â rhoi unrhyw weddillion neu fwyd gwastraff iddynt, gan eu bod yn annhebygol o'u bwyta ond bydd cnofilod yn eu mwynhau.
  • Storiwch eich bwyd adar mewn man diogel - mae gan gnofilod ddannedd cryf a gallant gnoi bagiau a chynwysyddion plastig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio rhywbeth cadarn fel cynhwysydd metel.
  • Cadwch eich ardaloedd bwydo adar yn lân - yn ogystal â sicrhau nad oes hen fwyd ar hyd y lle i gnofilod, bydd hyn hefyd yn cadw'ch adar gwyllt yn iach rhag clefyd.
  • Cadwch eich biniau a'ch ardaloedd compostio'n daclus - bydd cnofilod yn cael eu denu i'r bwyd sy'n pydru felly gwnewch yn siŵr eich bod yn storio'ch sbwriel mewn bin diogel ac yn rhoi'ch sachau allan i'w casglu'n rheolaidd.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda chnofilod, a all fod yn gysylltiedig â bwydo adar yn eich barn chi, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r Ffurflen ymholiad rheoli plâu.

Gwylanod

Gwybodaeth am wylanod.
Close Dewis iaith