Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd: Y cyhoedd yn cefnogi ymdrechion y cyngor

Mae arolwg ar ymgais y cyngor i wneud yr ardal yn garbon sero-net wedi datgelu galw cyhoeddus lleol aruthrol am weithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Green issues

Green issues

Gwahoddwyd preswylwyr lleol i ddweud eu dweud ar sut gall y cyngor ymladd yr argyfwng hinsawdd orau - ac ymatebodd tua 1,000.

Datgelodd ymatebion fod:

  • newid yn yr hinsawdd yn bryder i'r rhan fwyaf o bobl leol
  • bron tri chwarter o'r rheini a ymatebodd i'r arolwg wedi gwneud newidiadau ymwybodol i leihau eu hôl troed carbon
  • y rhan fwyaf o bobl yn barod i wneud newidiadau tuag at Abertawe Sero-net
  • y cyhoedd yn cefnogi camau gweithredu'r cyngor a fydd yn helpu'r sefydliad i ddod yn sero-net erbyn 2030.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor ac aelod y cabinet dros newid yn yr hinsawdd a thrawsnewid gwasanaethau, "Mae'r cyngor yn bwriadu dod yn garbon sero-net erbyn 2030 a'i fwriad yw gwneud y ddinas yn sero-net erbyn 2050.

"Roedd yr arolwg wedi dangos bod pobl Abertawe yn gyffredinol yn awyddus i weld newid ac yn gefnogol o weithredu ar newid yn yr hinsawdd.

"Bydd y canlyniadau'n ein helpu i flaenoriaethu'n camau gweithredu wrth i ni helpu'r ddinas gyfan i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn sy'n diffinio'n hoes.

"Rwy'n diolch i bawb a gymerodd ran; bydd yr arolwg yn ein helpu i gyflawni cymaint wrth i ni geisio dod yn sero-net."

Roedd arolwg y cyngor ar gyfer preswylwyr o bob oed a sefydliadau o bob math yn cynrychioli dechrau sgwrs wrth i'r cyngor geisio creu ymagwedd strategol ar draws y ddinas at gyflawni Abertawe carbon sero-net.

Fel rhywbeth gweledol i atgoffa pobl ei fod yn bwriadu dod yn sero-net, mae gan y cyngor eisoes siarter ar weithredu ar yr hinsawdd a gwedudalen lle gall y cyhoedd wneud eu haddewidion eu hunain am newid yn yr hinsawdd.

Rhagor: www.abertawe.gov.uk/newidynyrhinsawdd

Close Dewis iaith