Y Diweddaraf am Covid-19 i Fusnesau Twristiaeth - 12 Tachwedd 2021
Cefnogi'n diwydiant twristiaeth lleol drwy'r pandemig Covid-19.
Gwylwyr tân gwyllt Abertawe'n cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw - 12 Tachwedd
Disgwylir i filoedd fwynhau'r arddangosfa am ddim a drefnir gan Gyngor Abertawe ar safleoedd agored, eang a diogel traeth Abertawe a'r prom.
Disgwylir i'r digwyddiad gael ei gynnal rhwng 6pm ac 8pm a bydd parcio ar gael mewn nifer o leoliadau gan gynnwys y Rec, y Ganolfan Ddinesig a meysydd parcio arferol canol y ddinas.
Bydd stondinau bwyd a diod ar agor o 6pm yn ardaloedd y Ganolfan Ddinesig a'r Senotaff.
Disgwylir i'r tân gwyllt gychwyn am 7pm. Bydd modd gweld yr arddangosfa o gwmpas y bae - os bydd y tywydd yn caniatáu - gyda'r golygfeydd gorau ar gael ar y prom a'r traeth rhwng y Ganolfan Ddinesig a Brynmill Lane.
Bydd angen cau rhan o Oystermouth Road i draffig, dros dro ac i'r ddau gyfeiriad, ar gyfer y digwyddiad. Bydd hyn yn helpu gyda diogelwch gwylwyr a chaiff ei chau rhwng y Ganolfan Ddinesig a Brynmill Lane o 5pm i 9pm.
Bydd gwylwyr sy'n cyrraedd ar ôl 5pm yn dal i allu mynd i'r meysydd parcio yn y Ganolfan Ddinesig a Paxton Street, oni bai eu bod yn llawn. Bydd maes parcio'r Rec yn hygyrch drwy Brynmill Lane.
Mae trefniadau traffig yn cynnwys dargyfeiriad i gyfeirio traffig Oystermouth Road drwy Uplands a Sketty Lane.
Ar ddiwedd y digwyddiad, cynghorir gwylwyr i ganiatáu amser ychwanegol i deithio oherwydd disgwylir i'r ffyrdd fod yn brysur. O ystyried y nifer mawr o gerbydau a fydd yn debygol o adael yr ardal ar yr un pryd, disgwylir cryn dipyn o draffig.
Y Senedd yn cymeradwyo ehangu'r defnydd o bàs COVID y GIG - 15 Tachwedd
Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu'r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.
Ers 11 Hydref, mae'n ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG neu ganlyniad prawf llif unffordd negatif diweddar i fynd i glybiau nos a lleoliadau tebyg ac i ddigwyddiadau, ac mae'r drefn yn gweithio'n dda. Rydyn ni wedi cael sylwadau cadarnhaol gan amryw o fusnesau a threfnwyr digwyddiadau mawr, gan gynnwys ar ôl y gemau rygbi rhyngwladol diweddar. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sectorau sy'n gweithredu'r cynllun i'w cefnogi orau y gallwn.
Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd ymlaen.
Pàs COVID: canllawiau ar gyfer busnesau a digwyddiadau
Gellir cofrestru ar gyfer Treiathlon Ironman 70.3 2022 o 16 Tach
Mae treiathlon agoriadol IRONMAN 70.3 Abertawe yn dod i Abertawe ar 7 Awst 2022. Gallwch gofrestru ar 16 Tachwedd drwy eu gwefan
Sgiliau Bwyd Cymru: Gweithdy Creu Profiad Bwyta Lleol Dilys - 18 Tach (11am)
Gyda diddordeb cynyddol mewn bwyd a diod lleol, mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut i ddod o hyd i'r cynhyrchion hyn. Rydym yn archwilio'r hyn sy'n newydd ac yn hollbwysig yn ystyied beth i gynnwys fel pwynt gwerthu unigryw eich busnes (USP)
Archebwch eich lle yma
Awr Gymorth Busnes Abertawe: Google my Business - 25 Tachwedd
Mae Google my Business yn hanfodol bwysig os ydych am i'ch busnes fod yn weladwy ar-lein. Ar hyn o bryd mae gan Google dros 92% o'r farchnad peiriannau chwilio a phan fyddwch yn ystyried Google Maps mae'n dod yn bwysicach fyth.
Os nad ydych wedi nodi'r manylion cywir ar gyfer eich rhestriad Google my Business, mae gan eich cystadleuwyr fantais drosoch eisoes a byddwch yn colli'r cyfle i ddenu cwsmeriaid newydd.
Ymunwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau ddydd Iau 25 Tachwedd am 10am ar gyfer sesiwn am ddim, a fydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad i lwyfan Google
- Beth yw 'Google my Business'?
- Sut gellir ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes
- Canllaw hawdd a chyflym sy'n dangos i chi sut i ddechrau arni
- Manteision i'ch busnes
COVID-19 a'ch busnes: Sut mae systemau archebu ar-lein yn ychwanegu gwerth at eich busnes
Yn lle mynd drwy eich negeseuon llaisbost, eich e-byst neu golli cyfle i ennill busnes, efallai yr hoffech ystyried defnyddio system archebu ar-lein.
Cynnyrch meddalwedd yw hwn sy'n caniatáu i gwsmer posib archebu gweithgaredd neu arhosiad drwy eich gwefan neu dudalen cyfryngau cymdeithasol. Mae'n symleiddio'r broses archebu a hefyd yn ymdrin â chansladau, taliadau ar-lein yn ogystal ag anfon negeseuon atgoffa awtomataidd i leihau'r risg o bobl yn peidio ag ymddangos.
Mae hyn i gyd yn helpu i wneud pethau'n haws i chi a'ch cwsmeriaid.
O safbwynt busnes, mae'n golygu bod eich gwasanaeth archebu ar gael 24/7 a gallwch leihau'r gwaith gweinyddol. Gallwch hefyd gysylltu â systemau talu (fel PayPal neu Sage Pay) fel y gallwch gasglu taliadau pan fydd cwsmeriaid yn archebu.
Mae'r ffordd fwy effeithlon hon o weithio'n golygu ei bod yn haws dod o hyd i'ch busnes twristiaeth neu fwyty ar-lein a gall yn llythrennol ddenu archebion dros nos neu ar adegau eraill pan nad ydych ar gael yn gorfforol i ymateb i ymholiadau.
I'r rhan fwyaf o fusnesau mae datrysiad parod yn gymharol rhad a hawdd i'w osod. Mae nifer o gyflenwyr hyd yn oed yn cynnig opsiwn am ddim gydag ambell nodwedd sylfaenol a fydd o bosib yn ddigonol i'ch rhoi ar ben ffordd.
Os ydych wedi penderfynu y gallai dechrau system archebu ar-lein fod o fudd i'ch busnes, ond dydych chi ddim yn siŵr ble i ddechrau, gallech ddarllen rhagor ar wefan Cyflymu Cymru i Fusnesau neu gysylltu i siarad â ymgynghorydd arbenigol.
Hyfforddiant Lletygarwch ac Arlwyo wedi'i Ariannu 100% gyda Choleg Gŵyr Abertawe
Mae Coleg Gŵyr Abertawe (CGA) bellach yn cynnig cyrsiau wedi'u hariannu'n llawn i weithwyr yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot diolch i'r cynllun Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 (SFI2).
Dyma rai o'r cyrsiau:
- Gwobr Lefel 2 City and Guild WordHost yn Egwyddorion Gwasanaeth Cwsmeriaid (23 Tach)
- Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn egwyddorion Diogelwch Tân (15 Rhag)
- Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (8 Rhag)
Cyflwynir pob cwrs wyneb yn wyneb. Gellir trefnu hyfforddiant pwrpasol hefyd yn eich safle ar gyfer grwpiau rhwng 6 a 12 o weithwyr.
Am ragor o fanylion, e-bostiwch Amanda.peploe-williams@gcs.ac.uk
Cyflymu Cymru i Fusnesau: Gweminarau am ddim i'ch helpu chi i gystadlu ar-lein
Yn y gofod ar-lein cynyddol gystadleuol hwn, sut allwch chi sicrhau bod eich busnes yn sefyll allan?
Mae gan Cyflymu Cymru i Fusnesau gweminarau rhad ac am ddim ar farchnata digidol, eFasnach, Gwefannau a SEO i'ch helpu i ddenu busnes ar-lein sy'n dychwelyd dro ar ôl tro.
Ydych chi am ddatgan eich dymuniad yn gyhoeddus i helpu i wneud Abertawe'n garbon sero-net? Llofnodwch ein haddewid hinsawdd yn awr!
Mae Wal Addewid Hinsawdd ar-lein y cyngor yn caniatáu i unigolion a grwpiau gymryd cam cyflym a syml i ddweud wrth eraill sut maent yn helpu'r blaned.
Mae'r cyngor yn bwriadu dod yn sero-net erbyn 2030 ac mae am wneud y ddinas yn sero-net erbyn 2050.
Mae syniadau gwych ar gyfer addewidion unigol yn cynnwys newid i gyflenwr ynni adnewyddadwy 100%, cerdded a beicio'n fwy i leihau'r defnydd o gerbydau, a siopa'n lleol i dorri allyriadau.
Mae busnesau a grwpiau cymunedol lleol hefyd yn cael eu hannog i wneud eu haddewid gan nodi sut byddant yn cyfrannu at Abertawe sero-net.
Mae'r cyngor eisoes yn mynd yn wyrddach ac wedi llofnodi siarter ar weithredu ar yr hinsawdd sy'n gwneud ymrwymiad i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth ac amrywiaeth.
Os hoffech ddatgan eich dymuniad yn gyhoeddus i helpu i wneud Abertawe'n garbon sero-net, llofnodwch addewid hinsawdd y ddinas yn awr - www.abertawe.gov.uk/addewidhinsawdd
Cronfa newydd gwerth £1 miliwn i gefnogi busnesau lleol mewn cymunedau ledled Cymru
Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa newydd i gefnogi busnesau lleol sy'n cynnig y nwyddau a'r gwasanaethau sy'n cefnogi llesiant pawb yng Nghymru.
Bydd y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol yn cefnogi busnesau mewn rhannau o'n heconomi bob dydd leol, a elwir hefyd yn Economi Sylfaenol, i ddarparu mwy o'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n ofynnol gan y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.
Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys busnesau sy'n eiddo i bobl leol, wedi'u gwreiddio mewn cymunedau lleol ac yn darparu gwaith teg, sy'n cwmpasu sectorau fel gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, twristiaeth, adeiladu a manwerthu.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod pedair o bob deg swydd, a £1 ym mhob £3 a wariwn, yn perthyn i'r categori hwn. Mae cynlluniau adfer Covid Llywodraeth Cymru yn dilyn COVID yn ymrwymo Gweinidogion i atgyfnerthu'r economi sylfaenol drwy gynyddu gwariant lleol a chyflawni prosiectau i gefnogi swyddi a busnesau mewn cymunedau ledled Cymru.
Cyfle i chi ddweud eich dweud am Hawliau Dynol yn y ddinas
Gofynnir i breswylwyr rannu eu meddyliau am Hawliau Dynol a beth ddylai fod yn flaenoriaeth wrth i Abertawe weithio i fod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.
Mae Cyngor Abertawe a'i bartneriaid yn gweithio i ennill statws Dinas Hawliau Dynol a bydd gwaith helaeth yn cael ei wneud gan fod angen cefnogaeth gan drawstoriad eang o fusnesau, grwpiau cymunedol, elusennau a phreswylwyr.
Lansiwyd arolwg yr wythnos hon i helpu'r partneriaid i ddeall yr hyn y mae pobl eisoes yn ei wybod am Hawliau Dynol a beth ddylai fod yn flaenoriaethau yn Abertawe.
Mae'r arolwg bellach ar gael ar-lein yn https://www.abertawe.gov.uk/dinasHawliauDynolArolwg gyda chopïau caled ar gael ym mhob un o lyfrgelloedd Abertawe o ganol Tachwedd.
Digwyddiadau sydd ar ddod ym Mae Abertawe
12 Tachwedd: Arddangosfa Tân Gwyllt am ddim, Bae Abertawe
12 Tachwedd - 3 Ionawr: Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Parc yr Amgueddfa
21 Tachwedd: Gorymdaith y Nadolig Abertawe a Chynnau Goleuadau'r Nadolig
26 Tachwedd - 21 Rhagfyr: Marchnad y Nadolig Abertawe, Canol y ddinas
Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk