Y Diweddaraf am Covid-19 i Fusnesau Twristiaeth - 3 Rhagfyr 2021
Cefnogi'n diwydiant twristiaeth lleol drwy'r pandemig Covid-19.
Gwasanaeth bysus am ddim
Mae'r fenter cludiant cyhoeddus hynod boblogaidd a ddechreuwyd yn y ddinas yn ôl bob penwythnos (dydd Sadwrn a dydd Sul) yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig ac ar gyfer wythnos gyfan 18 - 24 Rhagfyr a 27 - 31 Rhagfyr.
Mae ar gyfer teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe.
Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm
Darllenwch y stori lawn: Gwasanaeth bysus am ddim
Diwrnod Hawliau'r Gymraeg - 7 Rhag
Rhagfyr 7 yw Diwrnod Hawliau'r Gymraeg. Mae'n ddiwrnod a sefydlwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo'r defnydd o wasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru o dan Safonau'r Gymraeg Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. O dan y Mesur mae gan ein myfyrwyr, ein staff ac aelodau o'r cyhoedd yr hawl i wasanaethau Cymraeg yn y Coleg.
Cofiwch y gall busnesau yng Nghymru ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus gyda chymorth gwasanaeth cyfieithu a chyngor am ddim Helo Blod. Gall busnesau ar-lein hefyd elwa o'r gwasanaeth.
Mae Helo Blod yma i helpu gyda phob math o hyrwyddo dwyieithog, gan gynnwys gwefannau, pyst cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau marchnata, labeli a deunydd lapio, cylchlythyrau, arwyddion, llofnodion e-bost a negeseuon peiriant ateb.
Ewch i businesswales.gov.wales/heloblod/cy i gael rhagor o wybodaeth.
CThEM ac Acas: Yn helpu cyflogwyr i ddeall yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn iawn - 7 Rhag
Mae Tîm Isafswm Cyflog Cenedlaethol CThEM yn cynnig gweminar fyw lle bydd cydweithwyr o Acas yn ymuno â nhw i drafod rhai o'r problemau cyffredin sy'n arwain at dandaliadau, a pha gymorth sydd ar gael i'ch helpu i'w hosgoi.
Cofrestrwch nawr i gadw'ch lle
Cynllun Kickstart - 17 Rhag
Mae'r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol sy'n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor.
Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid hyd at 17 Rhagfyr 2021 sy'n cwmpasu:
- 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran y sawl sy'n cymryd rhan) am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig
- isafswm cyfraniadau pensiwn ymrestru awtomatig
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Ydych chi'n chwilio am staff ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd?
Mae'r rhan fwyaf o golegau yn barod i gynnwys hysbysebion am swyddi gwag ar eu gwefannau - cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalen sgiliau a recriwtio o dan 'Postio swyddi gwag gyda darparwyr lleol'. Os nad yw eich coleg lleol wedi'i restru yma cysylltwch â nhw'n uniongyrchol neu ewch i'w gwefan.
I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau sgiliau a recriwtio - sy'n cynnwys dolenni i'r Ganolfan Byd Gwaith, Cyfrifon Dysgu Personol a'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch
Byddwch yn Wych y Nadolig hwn
Mae'r ymgyrch 'Bydd Wych. Ailgylcha' yn ôl i annog pawb i ddal ati i ailgylchu y Nadolig hwn. rydym yn creu mwy o wastraff gyda'r bwyd ychwanegol rydyn ni'n ei fwyta a'r mynydd o ddeunydd pacio o anrhegion Nadolig rydyn ni'n eu rhoi neu'n eu derbyn. Os hoffech gefnogi ein hymgyrch ar eich sianeli ar y Cyfryngau cymdeithasol anfonwch e-bost at walesrecycles@wrap.org.uk i weld asedau'r ymgyrch.
Mae cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth Nadolig i gael cyfle i ennill hamper Nadoligaidd. Dilynwch @WalesRecycles ar Twitter a Facebook.
I wybod mwy ewch i www.byddwychailgylcha.org.uk
Mae'r Arena'n disgleirio yn y cyfnod cyn y Nadolig
Mae Arena Abertawe wedi bod yn disgleirio dros y diwrnodau diwethaf wrth i brofion goleuo cynnar barhau yn y lleoliad.
Mae dros 1,600 o baneli lliw aur bellach wedi cael eu gosod y tu allan i'r datblygiad, yn ogystal â 95,000 o oleuadau LED.
Bydd miloedd ar filoedd o fodurwyr, beicwyr a cherddwyr wedi sylwi ar y profion mwyaf diweddar, gyda miloedd o oleuadau gwyn disglair yn rhoi golwg Nadoligaidd i'r arena gyda'r hwyr, yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Cynhelir profion paratoadol pellach dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Bydd y profion yn helpu i benderfynu ar yr hyn sy'n gweithio orau ar ffasâd yr arena, er mwyn deall yn well sut gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Darllenwch y stori lawn: Mae'r Arena'n disgleirio yn y cyfnod cyn y Nadolig
Nodyn Atgoffa - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo
Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.
Cynigion dylunio cyntaf yn cael eu datgelu ar gyfer hwb gwasanaethau lleol canol y ddinas
Datgelwyd y dyluniadau arfaethedig ar gyfer lleoliad canolog newydd yn Abertawe ar gyfer prif lyfrgell y ddinas a gwasanaethau allweddol eraill.
Mae'r dyluniadau gan y penseiri Austin-Smith: Lord Ltd, ar ran y cyngor, yn datgelu golwg newydd ar gyfer hen adeilad BHS/What!
Maent yn ymddangos mewn dogfen newydd sy'n cefnogi cais y cyngor i newid defnydd yr adeilad o fod yn siop i hwb cymunedol.
Mae'r ddogfen ddylunio'n dweud y dylai golwg yr adeilad ar ei newydd wedd, a adeiladwyd yn y 1950au, gael "effaith" sy'n briodol ar gyfer adeilad cyhoeddus, gyda thu blaenau siopau agored a gweithredol i gynnal bywiogrwydd Stryd Rhydychen a Princess Way.
Cynigir bod y tu allan i'r llawr gwaelod yn cynnwys ffenestri'n bennaf a bod y lloriau uchaf yn cynnwys ffenestri gwydrog mawr i ddangos gweithgarwch ac ethos croesawgar.
Y bwriad yw y bydd cladin yn rhoi golwg fwy cyson i'r adeilad nag ar hyn o bryd. Gellid goleuo cladin tryloyw o'r tu ôl i weithredu fel goleufa i helpu i ddenu ymwelwyr.
Mae cynigion i gael wal werdd a phlanhigion ar ardal y to.
Y tu mewn, byddai'r llyfrgell yn gweithredu fel "asgwrn cefn" a byddai grisiau canolog crand trawiadol.
Disgwylir i'r adeilad fod yn hwb gwasanaethau lleol mewn llai na dwy flynedd. Yn ôl y cynigion presennol bydd yn cynnig mynediad hawdd at wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys y llyfrgell y disgwylir iddi symud o'r Ganolfan Ddinesig. Bydd ystod o wasanaethau eraill yn ymuno â hi - a gallai'r hwb gynnig mynediad o bosib at Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Bydd y cais ar gyfer newid defnydd yn cael ei ystyried yn awr gan gynllunwyr Abertawe.
Bydd y cyhoedd, yr ymgynghorwyd â hwy eisoes am y cysyniad gwreiddiol, yn gallu dweud eu dweud ar y cynllun newid defnydd yma - www.bit.ly/HubApplic
Bydd rheolau ymddygiad gwrthgymdeithasol newydd yn helpu canol dinas Abertawe i ddod yn lle mwy croesawgar i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef
Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) canol y ddinas bellach yn gymwys ar gyfer ymddygiad fel cymryd cyffuriau a meddwdod a gofynnir i bawb gydymffurfio.
Mae'r GDMAC - sy'n rhan o ymagwedd ehangach a chydlynol Abertawe i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd - wedi'i gynllunio i roi hwb i ganol y ddinas sydd eisoes yn cael ei wella. Mae rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn yn cyflwyno datblygiadau trawiadol fel Arena Abertawe, Wind Street fel cyrchfan drwy'r dydd a Ffordd y Brenin wyrddach a mwy deniadol.
Mae'r GDMAC - a gafodd gefnogaeth gyhoeddus eang mewn ymgynghoriad diweddar - yn golygu y gellir mynd ag alcohol a chyffuriau oddi ar bobl sy'n eu defnyddio ar y strydoedd cyn i'r sefyllfa ddod yn broblem. Gellir cyflwyno hysbysiadau o gosb benodol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhegi ac ymosodedd. Gellid cymryd camau eraill hefyd i ymdrin â chodwyr twrw parhaus.
Bydd 1 Rhagfyr yn nodi dechrau treial GDMAC tri mis mewn ardaloedd sy'n cael eu patrolio ar hyn o bryd gan geidwaid canol y ddinas, ynghyd â'r Marina a pharc arfordirol Bae Copr pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf. Os bydd yn llwyddiannus, gellid cyflwyno GDMACau mewn ardaloedd fel SA1, Traeth Abertawe a chanol Treforys.
Mae GDMACau ar wahân yn cael eu datblygu ar gyfer dau leoliad arall sydd â hanes o ymddygiad gwrthgymdeithasol - lôn oddi ar St Helen's Road a thwnnel sy'n cysylltu'r Strand â'r Stryd Fawr.
Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMACau)
Cronfa Newidiadau Cymunedol - 23 Rhag
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Cysylltiedig De Orllewin Cymru wedi ail-lansio cronfa grant cymunedol i gefnogi cymunedau ar hyd y rheilffordd i wneud i newid ddigwydd yn eu lleoedd lleol.
Bydd y gronfa Newidiadau Cymunedol yn cefnogi grwpiau a sefydliadau sydd eisiau sbarduno newid lleol cadarnhaol yn uniongyrchol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw ar Ragfyr 23ain.
Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk