Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (dyddiad cau: 09/08/22)
£39,571 - £41,591 y flwyddyn. Yn Abertawe credwn mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ac amgylchedd gwaith cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Teitl y swydd: Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.63482-V1
Cyflog: £39,571 - £41,591 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Disgrifiad swydd Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (SS.63482-V1) (PDF)
[862KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.63532-V5
Dyddiad cau: 11.59pm, 9 Awst 2022
Mwy o wybodaeth
Rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn cyflawni swydd heriol ond gwerth chweil ac yn gwerthfawrogi'r gwydnwch y maent yn ei ddangos drwy oresgyn heriau bob dydd. Bydd Uwch Weithwyr Cymdeithasol yn ein Timau Cynllunio Gofal â Chymorth yn gyfrifol am reoli cynlluniau risg a gofal ar gyfer ein plant yn amodol ar gynlluniau gofal a chymorth plant mewn angen, cynlluniau amddiffyn plant a'r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.
Byddwch yn weithiwr cymdeithasol profiadol iawn, ac yn mwynhau'r cyfle i weithio dan amgylchedd cyflym, creadigol a chefnogol. Byddwch yn barod i rannu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i gyfrannu i ddiwylliant o ddysgu a gwella parhaus a chefnogi eraill i gyflawni nod cyffredin o wella canlyniadau i blant a'u teuluoedd.
Ein gweledigaeth yn Abertawe, y mae'r gweithlu presennol yn ei deall yn dda, yw 'gwneud yr hyn sy'n bwysig i wneud pethau'n well i blant, pobl ifanc a theuluoedd'. Adlewyrchir hyn yn ein hymgais y dylai plant, lle bynnag y bo'n ddiogel gwneud hynny, aros yng ngofal eu teuluoedd biolegol. Arwyddion Diogelwch yw ein fframwaith ymarfer ac mae ein timau gwaith cymdeithasol yn gweithio mewn podiau bach sy'n ein galluogi i weithio'n systemig gyda theuluoedd i sicrhau newid. Mae hyn yn cefnogi goruchwyliaeth a chydweithio da rhwng staff. Mae meithrin perthynas barchus gadarnhaol â theuluoedd, gwrando ar blant a sicrhau eu bod yn rhan o benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Amlygodd ein hymweliad sicrwydd AGC diweddar ym mis Mehefin 2021 y canlynol: -
- Roedd agwedd gadarnhaol tuag at risg a pharodrwydd i arbrofi, arloesi a bod yn greadigol yn amlwg.
- Dywedodd darparwyr fod Cyngor Abertawe wedi arwain y ffordd o ran dylanwadu ar bartneriaid i fabwysiadu dull ymholi mwy seiliedig ar gryfder/gwerthfawrogol o gyfathrebu â phobl.
- Roedd ymarfer yn barchus a gwelsom ymdrechion go iawn gan staff i ddeall amgylchiadau pobl ac archwilio'r ffordd orau o gydweithio i gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol eu hunain.
- Roedd adborth gan staff drwy grwpiau ffocws a chanlyniadau'r arolwg yn cadarnhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n briodol drwy gydol y pandemig.
- Mae dull cadarn a rhagweithiol Cyngor Abertawe o adolygu, a lle bo'n briodol, lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi parhau i dalu ar ei ganfed yn ystod y pandemig. Mae nifer y plant a leolir y tu allan i Gymru hefyd wedi gostwng yn ddiweddar. Roedd gan y rhan fwyaf o'r bobl ifanc brofiad o ofal y buom yn siarad â hwy yn gadarnhaol am eu profiad cyffredinol a'u lefelau cymorth.
Yn Uwch Weithiwr Cymdeithasol yng Ngwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe byddwch yn profi:
- Diwylliant gwaith cadarnhaol a chefnogol lle gellir ymddiried yn y staff i wneud eu gwaith, rhennir problemau a chaiff atebion eu nodi drwy sgyrsiau ac adfyfyrio'n rheolaidd.
- Cymerir cyfleoedd i ddysgu o bethau nad oeddent yn gweithio cystal ac a ystyrir yn ffordd gadarnhaol o gefnogi newid pan fo angen.
- Ymrwymiad gwasanaeth cyfan i ddeall a nodi'r gwastraff yn ein systemau fel y gallwch chi, yn weithwyr, dreulio llai o amser yn cwblhau gwaith papur a mwy o amser gyda phlant a'u teuluoedd.
- Ffyrdd arloesol a chreadigol o weithio fel bod cyfleoedd bob amser i'ch datblygiad personol a'ch adfyfyrio eich hun er mwyn ystyried sut y gellir gwneud pethau'n wahanol.
- Arweinyddiaeth a rheolwyr cefnogol sy'n gwrando ac yn gwerthfawrogi eich mewnbwn i'r ffordd y gall ein gwasanaeth barhau i ddatblygu a gwella.
- Goruchwyliaeth reolaidd ac ansawdd yn ffurfiol ac yn anffurfiol sy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd eich lles yn ogystal â chyfleoedd i fyfyrio ar achosion.
- Y cyfle i weithio mewn podiau bach (6 o bobl) mewn Hwb mwy ac Arweinydd Ymarfer a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich ymarfer drwy adfyfyrio a thrafod yn rheolaidd.
- Uwch Dîm Rheoli sy'n weladwy, yn hawdd mynd atynt ac sydd am glywed ac ymateb i staff.
- Diwylliant lle mae staff yn cael eu canmol a'u cydnabod yn rheolaidd am y gwaith rhagorol y maent yn ei wneud yn aelodau gwerthfawr o'r gwasanaeth.
- Gwasanaeth arloesol sy'n hyrwyddo dulliau creadigol o reoli achosion ac sy'n synhwyrol o ran risg.
- Mynediad at hyfforddiant, mentora a chyfleoedd ar gyfer goruchwylio grwpiau cyfoedion.
- Rhaglen sefydlu ragorol a chymorth wedi'i deilwra i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, gwydnwch a hyder yr holl weithwyr.
- Cyfleoedd i weithio o dan fodel hybrid lle mae gweithwyr yn rhannu eu hamser rhwng y swyddfa a'r cartref.
- Cydnabyddir pwysigrwydd a budd cymorth gan gymheiriaid gydag amser ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer datblygu tîm.
- Atodiad marchnad ychwanegol yn ogystal â'ch cyflog o £500 y mis tan 30 Medi 2022.
Amdanoch chi:
- Byddwch yn ymarferydd profiadol, arloesol, hyderus ac egnïol, wedi ymrwymo i sicrhau newid cadarnhaol i blant a theuluoedd a chefnogi eich cydweithwyr i ddysgu, datblygu a chyflwyno arfer gwaith cymdeithasol cyson dda.
- Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig, gyda phrofiad sylweddol o ymarfer gwaith cymdeithasol ym maes gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd.
- Byddwch yn arwain drwy esiampl wrth gofleidio newid a chefnogi eich tîm drwy hyn yn gadarnhaol.
- Bydd gennych ddiddordeb brwd mewn dysgu o adolygiadau achos, archwiliadau a chwynion, a lledaenu'r dysgu hwnnw, a byddwch yn cefnogi'r gweithlu i gau'r ddolen yn dilyn gweithgarwch archwilio i gefnogi gwelliant parhaus.
- Bydd gennych sgiliau dadansoddol a beirniadol rhagorol i ddadansoddi, asesu risg a dehongli gwybodaeth neu sefyllfaoedd cymhleth ac i ddatrys problemau anodd neu ddatblygu atebion a chynlluniau.
- Byddwch yn gallu meddwl yn gyflym ac yn greadigol i helpu i oresgyn heriau a materion cymhleth.
- Byddwch yn angerddol am waith cymdeithasol sy'n seiliedig ar berthynas ac yn gallu meddwl yn greadigol a myfyrio am sut y gallwch feithrin perthnasoedd i ddeall beth sy'n bwysig i blant a'u teuluoedd a'u cefnogi i gyflawni hyn.
- Byddwch yn ymrwymedig i'ch datblygiad proffesiynol eich hun ac yn manteisio ar gyfleoedd dysgu a hyfforddi i barhau i ddatblygu eich sylfaen sgiliau a gwybodaeth bresennol.
- Byddwch yn sicrhau bod plant a'u teuluoedd wrth wraidd yr holl benderfyniadau a bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u dangos ym mhob agwedd ar eich gwaith.
- Byddwch yn frwdfrydig, yn ddeinamig ac yn angerddol am sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc.
- Byddwch yn dosturiol, yn agored, yn onest ac yn barchus ym mhob agwedd ar eich gwaith.
Rydym yn hysbysebu am Uwch Weithwyr Cymdeithasol parhaol yn ein timau Cynllunio Gofal â Chymorth. Am sgwrs anffurfiol am bopeth sydd gan Abertawe i'w gynnig cysylltwch â Carol Jones ar Abertawe 01792 635180.