Anne-Marie
Yn fyw ym Mharc Singleton - 30 Gorffennaf 2022.


Y brif act gynorthwyol ar gyfer y sioe hon fydd Mimi Webb, sydd wedi'i chanmol gan Radio 1 fel un o sêr 2022 wrth iddi greu cyffro ar draws y byd gyda'i EP Seven Shades of Heartbreak ac ar ôl iddi werthu pob tocyn ar gyfer ei thaith gyntaf o'r DU yn syth. Mae Mimi Webb, sydd eisoes yn seren enfawr ar TikTok, hefyd yn gallu brolio mai hi yw'r artist benywaidd cyntaf yn y DU, ers Dua Lipa yn 2017, i gael dwy sengl yn y 15 uchaf yn siartiau'r DU cyn iddi ryddhau ei halbwm gyntaf.
Yn agor y sioe fydd y seren newydd Gracey, sydd wedi'i henwebu ar gyfer Gwobr BRIT. Mae ei cherddoriaeth eisoes wedi'i ffrydio 140 miliwn o weithiau ac mae un o'i chaneuon wedi cyrraedd y 10 sengl uchaf yn y siartiau.
TOCYNNAU AR WERTH DDYDD GWENER 11 CHWEFROR AM 10AM - Rhagor o wybodaeth