Y Diweddaraf am Covid-19 i Fusnesau Twristiaeth - 11 Mawrth 2022
Cefnogi'n diwydiant twristiaeth lleol drwy'r pandemig Covid-19.
Tîm Twristiaeth y cyngor yn dechrau 2022 gydag Ymgyrch Farchnata'r Gwanwyn fwyaf erioed Bae Abertawe

Dechreuwyd Ymgyrch Farchnata aml-lwyfan, amlwg ac wedi'i thargedu ar gyfer y Gwanwyn sydd â'r nod o ddenu ymwelwyr newydd i'r ardal o leoliadau allweddol ar draws y DU, ym mis Chwefror ac mae eisoes wedi derbyn cryn dipyn o ymateb gan ddarpar ymwelwyr. Ar ôl dwy flynedd heriol, mae'r ymgyrch yn gwahodd cwsmeriaid newydd a'r rheini sy'n dychwelyd, i 'wneud Bae Abertawe'n eich #LleHapus yn 2022',
- Mae'r ymgyrch cyfryngau awyr agoredsy'n dangos fideos digidol 'Lle Hapus' o'r cyrchfan ar draws Lundain mewn canolfannau trafnidiaeth allweddol gan gynnwys Paddington Llundain, gorsafoedd trenau tanddaearol allweddol yn Llundain a gorsafoedd trenau ar hyd coridor yr M4 gan gynnwys Reading a Bristol Temple Meads. Cyrhaeddiad yr ymgyrch yn fras: dros 11.5 miliwn.
- Ymgyrch fideo ar deledu ar alw gyda Sky Ad Smart. Dau fideo cyrchfan 'Lle Hapus' newydd, sy'n targedu cyplau a theuluoedd ifanc o dros 110k o aelwydydd mewn ardaloedd targed allweddol ar draws y DU.
- Ymgyrch aml-lwyfan TikTok/Instagram sy'n targedu'r farchnad iau ac sy'n ceisio sicrhau bod y fideos yn cael eu gwylio dros 1.5m o weithiau.
- Ymgyrch Awyr Dywyll -2 fideo newydd, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol organig ac y talwyd amdani a chynnwys newydd ar gyfer y we. Mae'r fideos wedi cael eu gwylio 3,500 o weithiau hyd yma.
- Ymgyrch Gwyliau Addas i gŵn - fideo newydd, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol organig ac y talwyd amdani. Mae'r fideos wedi cael eu gwylio 20k o weithiau hyd yma.
- Datganiadau i'r wasg,trefnwyd dau ymweliad newyddiadurwr/blogwyr ar gyfer mis Mawrth eisoes. Ymgyrch gyfredol, Mawrth 2021 - Chwefror 2022: Cyflawnwyd bron i £600k o Werth Hysbysebu Cyfatebol hyd yn hyn
- Ymgyrch natur a bywyd gwyllt - Caiff 3 fideo newydd sy'n cynnwys y cyflwynydd teledu Iolo Williams eu lansio ym mis Ebrill. Bydd y fideos yn ceisio annog pobl i archwilio'r awyr agored ym Mae Abertawe, hyrwyddo iechyd a lles, ac annog parch at yr amgylchedd lleol.
Os hoffai unrhyw bartneriaid weithio gyda'r tîm ar fideos ar gyfer ymgyrchoedd y dyfodol, ymweliadau newyddiadurwyr a blogwyr, e-bostiwch Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk
I fanteisio ar gyfleoedd ychwanegol i farchnata'ch busnes er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr ymgyrchoedd uchod, cysylltwch â'r tîm.
Dewch i'n gweld ni yn yr Arena newydd - 17 Mawrth
Bydd Croeso Bae Abertawe yn bresennol yng Nghynhadledd Canol y Ddinas ddydd Iau 17 Mawrth yn arena newydd sbon Abertawe.
Dewch i'n gweld yn y parth 'Cyrchfan Abertawe' i gwrdd â'r Tîm Twristiaeth a chael gwybod sut gallwn gefnogi'ch busnes. Digwyddiad am ddim yw hwn a byddwn yno o 10am i 8pm felly edrychwn ymlaen at eich gweld yno.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe: Asesiad o Les Lleol 2022 - yn cau 18 Mawrth
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe wedi llunio drafft o'i ail Asesiad o Les Lleol ar gyfer 2022.
Mae'r asesiad drafft hwn yn edrych ar nifer o agweddau gwahanol ar les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn Abertawe. Casglwyd y dystiolaeth yn y ddogfen ddrafft hon gan dîm o swyddogion o sefydliadau partner Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Defnyddir y sylfaen dystiolaeth hon i ddatblygu Cynllun Lles Lleol Abertawe 2023.
Rydym bellach yn lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr asesiad drafft a fydd yn parhau tan ddydd Gwener 18 Mawrth 2022.
Am ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, dogfennau'r asesiad a dolen i'n harolwg byr, ewch i'r wedudalen ganlynol:
www.abertawe.gov.uk/asesiadbgc2022
Cyfres Gweminarau Busnes Cymru am y Weledigaeth Werdd 21-24 Mawrth 2022
Mae Busnes Cymru yn helpu busnesau i wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o effeithlonrwydd adnoddau, ac yn eich helpu i gymryd camau i liniaru eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Os yw'r Weledigaeth Werdd sydd gennych chi'n anelu at fod yn garbon sero net yn y dyfodol, bydd y gyfres hon o fudd i chi.
Mae'r gyfres ar y Weledigaeth Werdd yn cynnig cyngor ac adnoddau ar gyfer pob busnes yng Nghymru, a bydd y sesiynau arbenigol yn ymdrin â:
- Phecynnu gyda phlastig a gweithgynhyrchu
- Dylunio cynnyrch ac arloesedd
- Mesur effaith a sgiliau cynaliadwyedd
- Datblygiadau yn y farchnad a datgarboneiddio
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i
Ffair Swyddi Llwybrau at Waith: Lletygarwch a Gofal - 23 Mawrth
Hoffech chi ddilyn gyrfa mewn Lletygarwch neu Ofal?
Ewch draw i Ganolfan Treftadaeth Gŵyr, Parkmill ddydd Mercher 23 Mawrth rhwng 10am a 2pm i siarad â'r Tîm Llwybrau at Waith, cwrdd â chyflogwyr, cael gwybod am gyfleoedd lleoliadau a gwirfoddoli, cael cymorth gydag ysgrifennu CV a cheisiadau am swyddi, derbyn cefnogaeth un i un ac ennill cymwysterau.
Bydd y digwyddiad yn rhedeg rhwng 10am a 2pm. Parcio am ddim ar gael ar y safle.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Llwybrau at Waith ar: 01792 637112
Cyllido Torfol Abertawe: cyfle olaf i gynnig syniad - 23 Mawrth
Drwy Gronfa Cyllido Torfol Abertawe gallwch gael hyd at £5,000 ar gyfer syniadau creadigol i wella'ch ardal leol. Anogir hefyd brosiectau sy'n dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Er mwyn cael ernes gan y cyngor, y dyddiad cau i brosiectau greu eu tudalennau a chynnig eu syniad i'r gronfa yw 23 Mawrth.
Yna bydd prosiectau'n cynnal eu hymgyrchoedd cyllido torfol drwy gydol mis Ebrill, Mai a Mehefin er mwyn cyrraedd eu targed a dechrau eu darparu o'r haf a thu hwnt.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn creu prosiect cyllido torfol ar Spacehive
Diweddariad ar Awr Cymorth Busnes Abertawe: Cyfrifyddu ar y Cwmwl - 25 Mawrth (10am)
Mae meddalwedd cyfrifyddu ar y cwmwl wedi trawsnewid y ffordd mae busnesau'n rheoli eu harian. Mae'n rhoi mynediad di-oed at wybodaeth ac adroddiadau cyfrifyddu, ac mae'r cyfan wedi'i gysylltu â gwybodaeth gyfredol eich cyfrifon banc ar unrhyw ddyfais yn unrhyw le.
Arweinir y sesiwn gan Bevan Buckland o Abertawe. Maent yn gweithio gyda'r tri phrif ddarparwr ar gyfer pecynnau cyfrifyddu ar y cwmwl: Quickbooks, Sage a Xero.
Yn ystod y sesiwn bwysig hon, byddant yn amlinellu'r manteision allweddol o gyflwyno cyfrifyddu ar y cwmwl i'ch busnes, waeth beth yw ei faint neu ba fath o fusnes ydyw; byddant yn eich helpu i nodi sut gall cyflwyno'r systemau hyn wella effeithlonrwydd, hygyrchedd, diogelwch, cydweithio a chynaladwyedd.
Ar ôl amlinellu sut gall y systemau hyn helpu'ch busnes, byddant yn trafod y prif lwyfannau ac yn eich helpu i benderfynu pa un sy'n iawn i chi a'ch busnes.
Cadwch le ar-lein nawr
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/2023
Mae Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch wedi'i ganiatáu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.
Cyfanswm y rhyddhad oedd 100% o'r ardrethi a oedd yn ddyledus ar ôl i bob rhyddhad a gostyngiad arall gael eu dyfarnu. Caniatawyd i ni ddyfarnu rhyddhad yn awtomatig lle gellid nodi bod trethdalwr yn gymwys felly, yn y rhan fwyaf o achosion, nid oedd angen i fusnes wneud cais am y rhyddhad.
Mae'r rheolau wedi newid. Bydd yn rhaid i bob busnes cymwys wneud cais am y rhyddhad. Gwnewch gais ar unwaith fel y gallwn gymhwyso'r rhyddhad i'ch bil ardrethi ar gyfer 2022/23.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ehangu'r cynllun am flwyddyn arall OND gyda rhai newidiadau. Mae pwyntiau allweddol y cynllun newydd fel a ganlyn:
- Mae'r rhyddhad yn parhau i gael ei anelu at gefnogi busnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformiadau, gwestai a neuaddau cymunedol sy'n darparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld.
- Bydd angen i bob busnes cymwys wneud cais am y rhyddhad - os na wneir cais ni ellir talu'r rhyddhad a bydd y swm llawn yn daladwy.
- Uchafswm y rhyddhad fydd gostyngiad o 50% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol pan roedd y rhyddhad mwyaf yn 100%. Bydd gan lawer o fusnesau ardrethi i'w talu am y tro cyntaf yn y 2 flynedd ddiwethaf.
- Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar gyfer pob eiddo a feddiannir gan yr un busnes yng Nghymru. Wrth wneud cais am ryddhad, mae'n ofynnol i bob busnes wneud datganiad nad yw swm y rhyddhad y maent yn ei geisio ledled Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn.
- I fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad, rhaid i'r safle gael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y dibenion cymhwyso.Prawf ar ddefnydd yw hwn yn hytrach na meddiannaeth felly ni fydd eiddo sy'n cael ei feddiannu, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben cymhwyso, yn gymwys ar gyfer y rhyddhad.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Llwybr Arfordir Cymru - dathlu 10 mlynedd
Agorwyd y llwybr cerdded pellter hir 870 o filltiroedd (1,400km) yn swyddogol ar 5 Mai 2012 fel atyniad i ymwelwyr - gallwch ei ddefnyddio am ddim ac mae ar agor drwy'r flwyddyn.
Mae'n cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa (sy'n dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr) a Llwybr Glyndŵr sef llwybr cerdded sy'n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa. Mae'r cysylltiadau yma'n gwneud cerdded yng Nghymru'n brofiad gwirioneddol unigryw gan fod modd dilyn llwybr cerdded di-dor bob cam o gwmpas ei berimedr.
Mae'r adran o amgylch Abertawe a Phenrhyn Gŵyr yn 69 milltir (111km) o hyd ac mae'n cynnwys uchafbwyntiau fel Bae y Tri Chlogwyn, Pen Pyrod ym Mae Rhosili a Goleudy Trwyn Whiteford.
Mae gan y Pecyn Cyfryngau Dathlu 10 Mlynedd a'r Pecyn Cymorth i Fusnesau wybodaeth am y llwybr gyda ffeithiau a ffigurau diddorol a gwybodaeth am yr hyn sy'n newydd ar gyfer 2022 fel y gallwch rannu cynnwys ar eich gwefan a'ch cyfryngau cymdeithasol eich hun a rhoi profiad Llwybr Arfordir Cymru bythgofiadwy i'ch cwsmeriaid.
Dathlu 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru
Cynllun cymhellion Llywodraeth Cymru i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid anabl wedi cynyddu a'i ymestyn am flwyddyn arall
Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd busnesau sy'n recriwtio prentisiaid anabl llawn amser dros y flwyddyn nesaf yn gallu disgwyl derbyn cymhelliant ychwanegol o £2,000.
Mae Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaid Anabl Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i annog cyflogwyr i gael profiad uniongyrchol o fanteision recriwtio pobl anabl, yn cael ei ymestyn o 1 Ebrill 2022 tan ddiwedd mis Mawrth 2023, gyda chynnydd o £500.
Mae'r ymrwymiad yn cefnogi cynllun cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru, Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, sy'n rhoi blaenoriaeth i gefnogi'r bobl hynny sydd bellaf o'r farchnad lafur.
Mae'r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaethau presennol, sydd wedi bod yn rhan allweddol o ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau a gweithwyr i wella o effeithiau coronafeirws, hefyd yn cael ei ymestyn i 31 Mawrth, 2022.
Darllenwch y stori lawn
Atyniad Penderyn Abertawe'n datblygu
Mae gwaith yn parhau ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y bwriedir iddo ddod yn atyniad i ymwelwyr newydd ar gyfer wisgi Penderyn eleni.
Bydd y cynllun gan Gyngor Abertawe yn rhoi bywyd newydd i bwerdy a thai allan y safle hanesyddol. Bydd distyllfa ar y safle hefyd yn ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni o Gymru.
Mae'r prif gontractwr, John Weaver Contractors, o Abertawe, wedi parhau â'r gwaith yn unol â chyfyngiadau'r llywodraeth drwy gydol y pandemig. Mae'r gwaith ar do y pwerdy wedi datblygu'n dda, sy'n golygu bod lle diddos bellach ar gael ar gyfer distyllfa Penderyn a fydd ar y safle yn y dyfodol.
Gwnaed llawer o waith hefyd ar y ganolfan ymwelwyr Penderyn newydd. Bydd llwybr newydd yn cysylltu'r ganolfan â rhan o felin rolio hanesyddol y safle, lle bydd gan Penderyn storfa casgenni.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle'r gwaith copr yn haf 2020. Mae'n rhan o raglen adfywio'r ddinas gwerth £1bn a fydd yn gweld Abertawe'n arwain y ffordd allan o'r pandemig.
Darllenwch y stori lawn
Datblygiad llinell sip a cheir llusg i agor yn Abertawe yn 2025
Mae cwmni o Seland Newydd sydd y tu ôl i gynigion i adeiladu parc antur awyr agored gan gynnwys llinellau sip, siglen awyr, ceir llusg a system raffbont ar Fynydd Cilfái Abertawe yn y camau olaf o gwblhau ei ddiwydrwydd dyladwy.
Er gwaethaf y ffaith bod y pandemig byd-eang wedi arafu'r cynnydd, meddai Geoff McDonals, Prif Swyddog Gweithredol Skyline Enterprises, fod gwaith cynllunio a chydosod tir yn mynd rhagddo.
Roedd cynigion hefyd yn cynnwys lleoliadau bwyd a diod a llwyfan gwylio panoramig ar Fynydd Cilfái gyda golygfeydd ar draws Bae Abertawe fel rhan o atyniad sy'n bwriadu agor yn 2025.
Mae trafodaethau cadarnhaol gyda Chyngor Abertawe yn parhau ochr yn ochr â'r potensial i Skyline Enterprises weithio gyda datblygwr sector preifat arall er mwyn ychwanegu elfen ddigidol y gellir ymgolli ynddi at yr atyniad.
Mae Skyline Enterprises yn rhedeg dau gyrchfan sy'n cynnwys reidiau ceir cebl ac atyniadau eraill yn Seland Newydd, yn ogystal â pharciau ceir llusg yng Nghanada, De Corea a Singapore. Yr atyniad ceir cebl arfaethedig ar gyfer Abertawe fyddai un cyntaf y cwmni y tu allan i Seland Newydd.
Darllenwch y stori lawn
Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2022
- 15-17 Ebr: Gŵyl Bwyd Stryd Abertawe
- 4 Meh: Gerry Cinnamon yn fyw ym Mharc Singleton
- 2-3 Gor: Sioe Awyr Cymru
- 9 Gor: Mighty Hike Penrhyn Gŵyr
- 29 Gor: Nile Rodgers a CHIC yn fyw ym Mharc Singleton
- 30 Gor: Anne-Marie yn fyw ym Mharc Singleton
- 31 Gor: Paul Weller yn fyw ym Mharc Singleton
- 31 Gor: Sioe Gŵyr
- 5 Aws: Theatr Awyr Agoreg: Rapunzel, Gastell Ystumllwynarth
- 6 Aws: Cyfres Para Treiathlon
- 7 Aws: IRONMAN 70.3 Abertawe
- 3-11 Med: Gŵyl Gerdded Gŵyr
- 18 Med: Ras 10k Bae Abertawe Admiral
Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk