Theatr Awyr Agored: Rapunzel
5 Awst 2022 2pm, Castell Ystumllwynarth


Dewch i ddianc i'r awyr agored yr haf hwn gyda Rapunzel - cynhyrchiad cyffrous a thwymgalon am ferch sy'n dyheu am fod yn rhydd o'i charchar gorfodol ac archwilio'r byd tu allan.
Gyda gwrachod cas, ellyllon cariadus a Thywysog golygus, a milltiroedd o wallt aur, Rapunzel yw'r cynhyrchiad perffaith ar gyfer pob oedran. Mae addasiad "hynod dwp" (The Stage) IKP o Rapunzel yn dod â'r stori tylwyth teg glasurol yn fyw gyda digonedd o hiwmor slapstic corfforol, pypedwaith a digon i gadw'r oedolion yn hapus hefyd!
Tocynnau
- Oedolyn: £12*
- Consesiwn (Dan 16 a 60+ oed): £10*
- PTL: £6* Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01792 475715 i archebu tocynnau PTL
- Teulu (2 oedolyn a 3 blentyn): £35*
*Yn ogystal â ffi archebu o 5% fesul pryniad
Sylwer: nid yw'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gan Gastell Ystumllwynarth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch special.events@abertawe.gov.uk.