Toglo gwelededd dewislen symudol

Lefel 2 - Sgiliau TG ar gyfer Waith a Bywyd [Dydd Mercher 12.30pm-2.30pm] - DL042432.GP

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
Amser dechrau 12:30
14:30

Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.

Hyd - 30 wythnos (10 wythnos ar ôl). 

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri thymor dysgu, gyda'r nôd o ddarparu sgiliau ac unedau achrededig i chi ar Lefel 2 Agored Cymru.

Ehangu ar eich sgiliau TGCh i weithredu a symud ymlaen mewn gwaith, addysg a bywyd bob dydd, gan ddefnyddio Technoleg Ddigidol er eich budd chi. Datblygu eich sgiliau i ddefnyddio ystod o gymwysiadau meddalwedd prosesu geiriau, archwilio golygu, gosod a fformatio yn eich dogfennau. Cydweithio ar ddogfennau, golygu ac adolygu ffeiliau a rennir. Paratoi cyflwyniadau at ddibenion diffiniedig, gan archwilio nodweddion meddalwedd i wella dyluniad a chyflwyniad eich cyflwyniadau. Datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth taenlen ymhellach, gan ddefnyddio taenlenni i grynhoi ac arddangos data. Addysgir gwell rheolaeth ffeiliau, gan gynnwys arbed, sicrhau a rhannu dogfennau, fel sgil allweddol a gwmpesir yn ystod y cwrs hwn.

Bydd y cwrs 30 wythnos hwn, a gyflwynir dros dri thymor 10 wythnos, yn gwella'ch cynhyrchiant gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd TGCh a'r swyddfa. Bydd yn ystyried ymhellach fanteision defnyddio prosesu geiriau, cyflwyniadau a thaenlenni, gan roi'r sgiliau a'r achrediadau cydnabyddedig i chi i'w defnyddio'n fwy effeithiol.

Ymhlith y sgiliau a addysgir mae:

  • Defnyddio offer gosod a fformatio i drefnu ac arddangos dogfennau yn effeithiol.
  • Defnyddio offer a thechnegau i wella cyflwyniadau.
  • Defnyddiwch fformiwlâu a swyddogaethau i grynhoi, thrin a chyflwyno data.
  • Rheoli ffeiliau.

Bydd yr unedau Agored Cymru dan sylw yn cynnwys:

  • CP12CY019 Technegau Prosesu Geiriau.
  • CP12CY017 Creu Cyflwyniadau Digodol.
  • CP12CY018 Technegau Taenlenni.

Mae pob un o'r unedau uchod werth tri chredyd, naw i gyd, y gellir eu defnyddio i ffurfio rhan o un neu fwy o gymwysterau Agored Cymru rheoledig.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Sesiynau dosbarth, dan arweiniad tiwtor.
  • Taflenni a thaflenni canllaw a gael i lawrllwytho ac argraffu.
  • Gwaith prosiect ar gyfer achredu.

Meini prawf cymhwysedd pwysig ar gyfer ymuno Lefel 2 - Sgiliau TG ar gyfer Gwaith a Fywyd:

Er mwyn cofrestru ar y cwrs hwn, rhaid bod gan ddysgwyr lefel ddigonol o sgiliau a gwybodaeth wrth ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau, cyflwyno a thaenlen, a gallant eisoes gyflawni'r tasgau canlynol yn gyfforddus:

  • Ychwanegu a gosod blychau tecst a delweddau.
  • Perfformio swyddogaethau ar ddata mewn taenlenni.
  • Ychwanegwch nodwedd ryngweithiol i gyflwyniad.

Os yw dysgwyr yn ansicr o'r uchod, dylent ystyried ein cwrs Lefel 1 - Sgiliau TG ar gyfer Gwaith a Fywyd.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.


Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb.

Côd y cwrs: DL042432.GP

Yr ARC Cymunedau am Waith

45 Broughton Avenue

Portmead

Abertawe

SA5 5JS

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Mercher 24 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith