Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymru'n Cofio

Distewodd ein dinas am 11am ar Sul y Cofio pan gofiodd y genedl am yr aberth a wnaed gan y lluoedd arfog mewn brwydrau o gwmpas y byd.

remembrance sunday 22

Bu'r Arglwydd Faer, y Cyng. Mike Day yn cynrychioli pobl Abertawe yn y Senotaff fore dydd Sul ac aeth i Wasanaeth Coffa blynyddol yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol y ddinas yn y prynhawn, a drefnwyd gan Y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Roedd Arweinydd y Cyngor Rob Stewart a Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor Rob Stewart y Cyng. Andrea Lewis hefyd yn bresennol yn nigwyddiadau dydd Sul yn y Senotaff ac yn Eglwys y Santes Fair.

Roedd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cyng. Wendy Lewis yn bresennol yn y digwyddiadau coffa wrth Gofeb Ryfel Fforest-fach fore dydd Sul ac yn Eglwys y Santes Fair yn y prynhawn.

Meddai'r Cynghorydd Day, "Mae dwy funud o fyfyrio'n dawel yn symbol o'n diolchgarwch i'r rheini a wynebodd perygl i amddiffyn ein rhyddid, a'r rheini sy'n dal i wneud hynny heddiw.

"Mae'r ddwy funud hyn sy'n cael eu rhannu gan bobl ar draws Abertawe a gweddill y DU ar yr un pryd hefyd yn ein hatgoffa o'n treftadaeth o aberth ac ymdrech a rennir."

Close Dewis iaith