Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau Castell Ystumllwynarth
Dydd Llun 28 Awst
11.00am - 4.00pm
Unwaith, mewn castell ymhell iawn i ffwrdd... Ymunwch â ni yng Nghastell Ystumllwynarth am ddiwrnod hudol lle bydd y straeon rydyn ni'n eu hadrodd yn cyfnewid rhwng straeon am arglwyddi ac arglwyddesau a thywysogion a thywysogesau.
Beth am wisgo i fyny? Byddwch mewn cwmni da gyda'n tywysogion a'n tywysogesau ein hunain a fydd yn cerdded o amgylch y castell yn cwrdd a chyfarch pawb, a bydd digonedd o gerddoriaeth a straeon i ychwanegu at yr awyrgylch gwych.
Tâl mynediad arferol yn berthnasol, a bydd y castell ar agor tan 5.00pm.