Toglo gwelededd dewislen symudol

Cae chwaraeon gwerth £1.6m yr ysgol bron yn barod i'w ddefnyddio

Mae'r cyffyrddiadau olaf yn cael eu gwneud i gae 3G pob tywydd maint llawn yn Ysgol yr Olchfa a fydd yn trawsnewid cyfleusterau chwaraeon i ddisgyblion a'r gymuned ehangach.

Olchfa 3G Pitch

Olchfa 3G Pitch

Nododd Cyngor Abertawe a llywodraethwyr yr ysgol ddarn o dir nad oedd ei angen a chytunwyd y byddai'n cael ei werthu i helpu i dalu am y buddsoddiad £1.6m newydd.

Cyflogwyd y contractwyr Carrick Sports  i greu'r cae a gwneud gwelliannau eraill ac maent bron â gorffen y gwaith.

Yn ogystal â'r cae pob tywydd newydd, bydd yr ysgol yn parhau i gael caeau pêl-droed a rygbi glaswellt.

Dywedodd Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu fod y prosiect yn yr Olchfa yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn cyfleusterau chwaraeon ysgol yn Abertawe.

Close Dewis iaith