
Arweiniad i Weithwyr Proffesiynol o'r Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r arweiniad hwn yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch fel gweithiwr proffesiynol o'r gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.
I gael gwybodaeth gyffredinol am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, gweler yr Arweiniad Cyffredinol i Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
Sut mae'r bwrdd yn effeithio ar fy ngwaith
Mae'r Cynllun Lles a luniwyd gan y bwrdd, a'r Asesiad Lles sy'n ei gyfeirio, yn cynnwys yr holl agweddau ar fywyd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn Abertawe.
Effeithir arnoch chi'n benodol os yw eich gwaith yn:
- Ymwneud ag ymchwil neu werthuso - dylech fod yn ymwybodol o'r Asesiad Lles ac efallai y dymunwch fod yn rhan o'i lunio
- Ymwneud â datblygu polisïau neu waith partneriaeth - dylech fod yn ymwybodol o'r Cynllun Lles ac efallai y dymunwch fod yn rhan o'i ddatblygiad.
- Ymwneud yn uniongyrchol ag un o'r Amcanion Lles y cytunwyd arnynt fel rhan o'r Cynllun Lles - dylech fod yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud i gyflawni'r amcan ac efallai y dymunwch ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith.
Cael gwybodaeth
Cyhoeddir manylion cyfarfodydd gan gynnwys ar wefan y cyngor
Cymryd rhan
Gall eich sefydliad gael ei gynrychioli ar y bwrdd, ac os felly gallwch gysylltu â'r cynrychiolydd perthnasol i ofyn sut gallwch fod yn rhan ohono.
Gallwch hefyd gysylltu â noddwr neu gydlynydd y gweithgor perthnasol os oes diddordeb gennych yn y gwaith mae'n ei wneud.
Adnoddau
Bydd gweithgareddau'r bwrdd yn creu nifer o adnoddau y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich gwaith eich hunan. Bydd hyn yn cynnwys:
Yr Asesiad Lles: Byddwn yn dod ag amrywiaeth o ymchwil meintiol ac ansoddol ynghyd mewn asesiad o'r canlyniadau canlynol, y cytunwyd arnynt gan y bwrdd, fel man cychwyn ar gyfer ei waith:
- Dechrau da mewn bywyd i blant
- Pobl yn dysgu'n llwyddiannus
- Swyddi da i bobl ifanc ac oedolion
- Safon byw dda i bobl
- Pobl yn iach, yn ddiogel ac yn annibynnol
- Lleoedd da i bobl fyw a gweithio ynddynt
Y Cynllun Lles: Yn dilyn yr Asesiad Lles, bydd hwn yn canolbwyntio ar nifer bach o amcanion lles ac yn nodi sut gellir eu cyflawni.
Agendâu a Chofnodion: Bydd adroddiadau a chyflwyniadau sy'n ymwneud ag agweddau gwahanol ar waith y bwrdd yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i chi fel ymarferydd. Bydd cofnodion y cyfarfodydd yn dweud wrthych ba gamau gweithredu sy'n cael eu cymryd mewn ymateb i faterion a godir.
Bydd yr holl ddogfennau hyn, yn ogystal ag adroddiadau perthnasol eraill, ar gael ar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.