Chwarae i Ddysgu
Adnodd ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed, yw Chwarae i Ddysgu, sy'n cyflwyno sgiliau corfforol sylfaenol mewn ffordd gyfannol sy'n hwyl ac yn ddiddorol.
Mae'r adnodd yn ysbrydoli plant ifanc drwy straeon a themâu sy'n symbylu eu dychymyg ac yn annog gweithgarwch corfforol. Ategir yr adnodd copi caled gan wefan ryngweithiol sy'n dod â chymeriadau'r adnodd yn fyw drwy animeiddio 3D.
Rydym am i chi helpu eich plentyn i wella ei ddatblygiad corfforol a'i sgiliau symud creadigol.
Gallwch wneud hyn drwy'r canlynol:
- Defnyddio'r straeon
- Neu drwy ddefnyddio'r cardiau yn yr adran 'Sgiliau' i helpu'r plentyn i ymarfer ei 'sgiliau'
- Neu drwy ei helpu i chwarae rhai o'r gemau yn yr adran 'Gemau'
Gellir ymarfer y rhan fwyaf o'r sgiliau a'r gemau mewn lle cymharol fach, gan ddefnyddio amrywiaeth o bethau cartref. Gall eich plentyn ymarfer y sgiliau a'r gemau ar ei ben ei hun. Gall archwilio gwefan a gweithgareddau Chwarae i Ddysgu.
Nid yw'n bwysig a fydd eich plentyn yn ymarfer y sgiliau'n gyntaf ac yna'n dawnsio, neu'n chwarae gêm sy'n defnyddio'r sgil hon, neu a fydd yn dawnsio neu'n chwarae gêm yn gyntaf ac yna'n ymarfer y sgiliau er mwyn gwella sut mae'n dawnsio neu'n chwarae'r gêm. Nid yw'r drefn yn bwysig, y peth pwysig yw sicrhau bod Chwarae i Ddysgu yn rhan ddifyr a rheolaidd o fywyd cartref.
- Dylai gemau, dawnsio a gweithgareddau hwyl fod ar gyfer bywyd pob dydd, yn hytrach nag ar gyfer partïon yn unig.
- Ceisiwch greu eich gemau eich hun neu ofyn i oedolion hŷn rannu'r gemau roeddent yn eu chwarae yn eu hieuenctid.
Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy glicio yma Play to LearnYn agor mewn ffenest newydd