Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 01/10/24)
Mae Maethu Cymru Abertawe yn wasanaeth Maethu Awdurdod Lleol blaenllaw wedi'i leoli o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.61561-V4
Cyflog: £38,223 - £42,403 y cyflog
Disgrifiad swydd:
Gweithiwr Cymdeithasol (SS.61561-V4) Disgrifiad swydd (PDF)
[256KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.61561-V4
Dyddiad cau: 11.59pm, 01 Hydref 2024
Gwybodaeth bellach
Mae swydd wag wedi codi o fewn y tîm, ac rydym yn awyddus i benodi Gweithiwr Cymdeithasol llawn-amser i ymuno â'n gwasanaeth ffyniannus. Fel aelod o Maethu Cymru Abertawe, byddwch yn cynorthwyo i recriwtio, goruchwylio a chefnogi gofalwyr maeth yn effeithiol, gan ymdrechu tuag at ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau rhagorol i'n plant a'n teuluoedd.
Rhaid i chi feddu ar Gymhwyster Gwaith Cymdeithasol a bod â gwybodaeth a phrofiad diweddar o weithio mewn amgylchedd aml-asiantaeth/rhyngddisgyblaethol a gwybodaeth am weithrediad y prif asiantaethau sy'n ymwneud â'r maes cyfrifoldeb hwn.
Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau gwybod mwy, cysylltwch â Kathryn Sillman kathryn.sillman@swansea.gov.uk
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe rydym yn dilyn yr egwyddor bod "Diogelu'n Fater i Bawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg.