Garage Band i Ddechreuwyr - ar gyfer iOS (fersiwn iPad yn unig) [Dydd Llun 10.00am-12.00pm] DL012531.KM
Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.
Hyd - 10 wythnos
Rhyddhawyd GarageBand yn wreiddiol ar gyfer macOS yn 2004 a daethpwyd â hi i IOS yn 2011. Mae system creu podlediadau'r ap yn galluogi defnyddwyr i greu amryfal draciau gydag allweddellau MIDI a wnaed o flaen llaw, dolenni a wnaed o flaen llaw, amrywiaeth o effeithiau offerynnol amrywiol a recordiadau llais.
Roedd hyn i gyd wedi chwyldroi'r stiwdio recordio gartref gan ddod â chreu cerddoriaeth i flaenau bysedd pobl nad oeddent yn gerddorion, neu gerddorion yr oedd eu gwybodaeth neu alluoedd cerddorol yn gyfyngedig.
Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu hanfodion GarageBand ar gyfer iOS fel:
- Sut i greu cân newydd
- Sut i ychwanegu trac a dewis offeryn
- Archwilio'r dolenni a wnaed o flaen llaw
- Chwarae'r offerynnau ar y sgrin â llaw
- Sut i olygu trac
- Sut i ychwanegu effeithiau
- Sut i greu adran newydd
- Sut i drefnu'r adrannau i greu cân gyflawn
- Sut i recordio lleisiau ac offerynnau go iawn
- A llawer, llawer mwy
Bydd angen iPad arnoch gyda GarageBand wedi'i gosod arno a phâr o glustffonau. Daw GarageBand am ddim gyda phob iPad (ond dylech fod yn ymwybodol na fydd iPads hŷn yn gallu rhedeg y diweddariadau diweddaraf weithiau).
Byddwn yn gweithio o gwmpas unrhyw broblemau orau y gallwn i weddu i'ch iPad chi.
Fformat dysgu: Ar-lein.
Côd y cwrs: DL012531.KM