Toglo gwelededd dewislen symudol

COAST - Cefnogi Iechyd Meddwl BAME

Gweithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae ein gweithgareddau arfaethedig yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau atyniadol i sicrhau y gall pawb gymryd rhan. Rydym yn cynnal sesiynau ffilmiau dan do bob nos Wener, sesiynau clwb ieuenctid ar fore dydd Sadwrn, a dosbarthiadau dawnsio a drymio ar nos Sul.

Yn ogystal, rydym yn cynnig trafodaethau iechyd meddwl yn yr hwb bob dydd Llun. Ar gyfer y rhai hynny sy'n dwlu ar yr awyr agored, rydym yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn Abertawe a gwersi reidio beic

Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymryd rhan yn ein gweithgareddau fel a ganlyn:

  1. Gofyniad oed: Rhaid i gyfranogwyr fod yn 10 oed neu'n hŷn ar gyfer sesiynau clwb ieuenctid a gwersi reidio beic. Mae'r holl weithgareddau eraill yn agored i bob oedran.
  2. Preswylio: Rhaid i gyfranogwyr breswylio yn ardal Abertawe i ymuno yn y gweithgareddau awyr agored yn Abertawe.
  3. Cofrestru: Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer pob gweithgaredd er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu ar gyfer pawb drwy http://www.bamementalhealth.org
  4. Iechyd a Diogelwch: Rhaid i gyfranogwyr lynu wrth y canllawiau iechyd a diogelwch sy'n benodol i bob gweithgaredd, gan gynnwys darparu unrhyw wybodaeth feddygol angenrheidiol.
  5. Caniatâd Rhieni: Ar gyfer cyfranogwyr dan 18 oed, mae angen cael caniatâd rhiant neu warcheidwad.

Sesiynau:

Sesiynau Ffilmiau Dan Do - Bob nos Wener

Sesiynau Clwb Ieuenctid - Bob bore dydd Sadwrn

Dosbarthiadau Dawnsio a Drymio - Bob nos Sul

Gweithgareddau Awyr Agored yn Abertawe - Bob dydd Llun yn yr hwb

Dyddiadau ac amserau amrywiol i'w cyhoeddi Gwersi Reidio Beic - I'w gadarnhau.

Enw
BAME
Cyfeiriad
  • 19 High Street
  • Abertawe
  • SA1 1LF
Gwe
http://www.bamementalhealth.org

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Awst 2024