Paentio dyfrlliw i ddechreuwyr [Dydd Gwener 9.15am - 11.15am] EN092460.AM
Hyd: 10 wythnos.
Dysgwch y sgiliau sydd eu hangen i greu eich celfweithiau eich hun.
Drwy sesiynau byw mewn ystafell ddosbarth, byddwch yn dysgu sut i baentio tirwedd, morlun, adlewyrchiadau a chysgodion trwy gyfrwng gwych dyfrlliwiau. Dysgwch dechnegau, fel paentio paent gwlyb ar baent wlyb, cymysgu lliwiau, gwerth tonyddol a chyfansoddiad. Trawsnewidiwch ymddangosiad eich paentiadau dyfrlliw gan ddefnyddio acrylig cyfrwng cymysg, inc, pastel a gouache.
Yn y dosbarth, byddwch yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i greu celfweithiau hardd yn ogystal â gweld enghreifftiau o'r dulliau a'r technegau i'ch helpu i greu eich celfyddyd dyfrlliw.
Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:
- Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth.
- Enghreifftiau ac adnoddau wedi'u hargraffu.
- Aseiniadau dosbarth.
- Adborth a chefnogaeth benodol gan diwtor.
Fformat dysgu: Wyneb i wneb.
Côd y cwrs: EN092460.AM