Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Safonau Masnach (dyddiad cau: 02/12/24)

£39,513- £43,693 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am Swyddog Safonau Masnach cymwys i ymuno â'n tîm. Rydym yn wasanaeth blaengar dan arweiniad cudd-wybodaeth sy'n canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd arloesol o gwrdd â'r heriau a ddaw yn sgil tirwedd defnyddwyr a busnes heddiw.

Teitl swydd: Swyddog Safonau Masnach
Rhif Swydd: PL.67865
Cyflog: £39,513- £43,693  y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Swyddog Safonau Masnach (PL.67865) Disgrifiad swydd (PDF) [225KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67865


Dyddiad cau: 11.59pm, 2 Rhagfyr 2024


Mwy o wybodaeth

Rydym yn chwarae rhan weithredol mewn gwaith rhanbarthol a phartneriaeth i ddarparu amgylchedd diogel, teg a llewyrchus i fusnesau a defnyddwyr, gan chwilio bob amser am ffyrdd arloesol o ddelio â materion newydd. 

Rydym yn chwilio am swyddog brwdfrydig ac ysgogol i ymuno â thîm sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fusnesau yn y ddinas, tra'n mynd i'r afael yn gadarn â gweithgareddau masnachu anghyfreithlon, gan ddefnyddio'r ystod lawn o offer a thechnegau sydd ar gael. 

Byddwch yn meddu ar y cymhwyster Safonau Masnach ffurfiol perthnasol a byddwch yn gweithio fel rhan o dîm prysur sy'n canolbwyntio ar arolygiadau safonau bwyd ledled y ddinas yn ogystal â bod yn rhan o bob agwedd ar waith Safonau Masnach yn ôl y gofyn. 

Byddwch yn drefnus a bydd gennych hyblygrwydd i weithio oriau anghymdeithasol achlysurol. Yn anad dim, byddwch yn gallu delio'n gydymdeimladol ag aelodau'r cyhoedd, a busnesau, tra hefyd yn hyderus yn eich gallu i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a heriol.

      

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2024