
Hysbysiadau cael gwared â gwrychoedd
Ym 1997, daeth rheoliadau newydd i rym i ddiogelu gwrychoedd pwysig ac, yn benodol, gwrychoedd sydd dros 20 metr o hyd neu sy'n crdd a gwrych arall ar y naill ben neu'r llall.
Dylid nodi nad effeithir ar berthi gardd.
Mae gwrychoedd a reolir yn werthfawr i fywyd gwyllt oherwydd eu bod yn cynnal amrywiaeth cyfoethod o bryfed, adar, mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid. Mewn llawer o ardaloedd tir isel, gwrychoedd yw'r cynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf arwyddocaol sydd o hyd yn bodoli. Mae iechyd gwrychoedd yn hanfodol ar gyfer goroesiad llawer o rywogaethau cyffredin yn ogystal a'r rhai mwy prin.
Bydd planhigion brodorol megis y ddraenen ddu, y ddraenen wen, y gollen, y gwyrwialen a'r fasarnen fach yn cefnogi llawer mwy o rywogaethau na phlanhigion nad ydynt yn frodorol, megis gwyros gardd, leylandii a'r eu cynnwys, mwyaf o fywyd gwyllt y gall ei gynnal oherwydd yr amserau blodeuo a ffrwytho gwahanol. Y gwrychoedd mwyaf gwerthfawr yw'r rhai sy'n cyfuno gwrych trwchus a pherthog gyda llethr, ffos neu ymyl laswelltog.
O dan Reoliadau Gwrychoedd 1997 (OS rhif 1160)
- Mae cael gwared a'r rhan fwyaf o wrychoedd gwledig heb ganiatad yn anghyfreithlon (ac eithrio'r rhai sy'n ffurfio ffiniau gardd).
- I gael caniatad i gael gwared a gwrych, mae'n rhaid i chi ysgrifennu atom gan gyflwyno hysbysiad cael gwared a gwrych (gweler y ddolen i'r ffurflen gais isod).
- Yn dilyn eich hysbysiad, os ydym yn penderfynu gwahardd cael gwared a gwrych 'pwysig', mae'n rhaid i ni roi gwybod i chi o fewn 6 wythnos.
- Os ydych yn cael gwared a gwrych heb ganiatad, boed hwnnw'n bwysig neu beidio, gallwch wynebu dirwy ddiderfyn. Efallai bydd angen i chi roi gwrych arall yn ei le.
Mae angen caniatad arnoch i gael gwared a gwrych os yw ar y tiroedd canlynol neu'n ymylu arnynt:
- Tir Amaethyddol
- Tir comin
- Tir coedwigaeth
- Padogau
- Gwarchodfa Natur Leol
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Nid oes angen caniatad arnoch o dan y rheoliadau hyn os:
- Ydyw yn eich gardd neu'n ffinio â'ch gardd.
- Ydych yn cael gwared ag ef i gael mynediad i:
- naill ai rhoi gwrych arall yn lle un sydd eisoes yn bod, (y dylid ei ailblannu),
- neu lle nad oes mynediad arall neu am gost anghymesur yn unig
- I gael mynediad dros dro i helpu mewn argyfwng.
- I gydymffurfio a gorchymyn iechyd planhigyn neu goedwigaeth statudol.
- I gydymffurfio a hysbysiad statudol ar gyfer atal ymyrryd a llinellau trydan.
- Mewn cysylltiad a draeniad statudol neu waith amddiffyn rhag llifogydd i roi caniatad cynllunio ar waith (ac eithrio lle ceir achos o hawliau datblygu a ganiateir).
OND mae'n rhaid i chi wirio nad oes unrhyw gyfamodau, caniatad cynllunio neu amodau sy'n gofyn body gwrychoedd yn cael eu cadw.
Mae cael gwared a gwrych yn golygu ei ddiwreiddio a gweithredoedd eraill sy'n arwain at ddinistrio'r gwrych. Ystyrir prysgoedio, gosod a chael gwared a llwyni a chlefyd neu farw yn rheolaeth arferol.
Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer gweithio ar wrychoedd drwy ddewis Dinas a Sir Abertawe o'r rhestr o awdurdodau lleol ar y Adran Ceisiadau'r Porth CynllunioYn agor mewn ffenest newydd
Mae gwybodaeth gefnogi ar gael drwy'r dolenni canlynol:
Adran Arweiniad y Porth CynllunioYn agor mewn ffenest newydd