Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith uwchraddio Llwybr Arfordir Gŵyr wedi'i gwblhau

Translation Required: A picturesque walking route between two Gower communities has been upgraded to provide improved accessibility for everyone using it.

limeslade route complete

Mae Cyngor Abertawe newydd gwblhau'r ddwy ran olaf o lwybr arfordir Gŵyr (310 metr) rhwng Rotherslade a Limeslade, gan osod llwybr concrit 1.5 metr o led ar ei hyd.

Mae'r llwybr rhwng y ddwy gymuned yn ymestyn am 1.7km, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r cyngor wedi gorfod gosod rhannau newydd ar hyd y llwybr oherwydd erydiad arfordirol.

Crëwyd rhan 450 metr newydd sbon o'r llwybr ym mis Mawrth eleni, a hynny ar ben rhan flaenorol, a oedd yn ymestyn am 270 metr arall, a gwblhawyd yn 2022.

Mae'r gwaith uwchraddio diweddaraf yn rhan o fuddsoddiad gwerth £80,000 sydd wedi'i ariannu drwy raglen cynnal a chadw priffyrdd ehangach y cyngor.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn gaffaeliad hynod boblogaidd i'r ddinas. Mae miloedd o bobl yn cerdded yno bob blwyddyn.

"Gwaetha'r modd, mae erydu arfordirol wedi effeithio ar y rhan rhwng Limeslade a Rotherslade yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gwneud popeth posib i greu rhannau newydd a dargyfeirio'r llwybr o'r ardal dan sylw.

"Mae hyn hefyd wedi rhoi'r cyfle i ni greu llwybr cerdded mwy hygyrch i bawb.

"Rydym bellach wedi cwblhau'r ddwy ran fer olaf nad ydynt wedi'u huwchraddio, ac er nad oedd erydiad arfordirol wedi effeithio arnynt, maent bellach yn darparu gwell mynediad i deuluoedd â chadeiriau gwthio a'r rhai sy'n defnyddio cadeiriau olwyn.

"Rydym wedi dewis buddsoddi rhan o'n cyllideb priffyrdd a thrafnidiaeth i alluogi'r gwaith gwella i fynd rhagddo."

Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 ar ôl cysylltu 61km o'r llwybr o gwmpas y penrhyn er mwyn galluogi pobl i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2025