Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Birchgrove: Gofalwr

(dyddiad cau: 08/12/25 am 12pm). £25,583 - £25,989 pro rata y flwyddyn. Cyflog cychwynnol gwirioneddol £12,504. Gradd 4 (Scp 5-6) (Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad tymor yn unig os yw dechrau'r gyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd)

Rydym yn chwilio am ofalwr dibynadwy, rhagweithiol a medrus (Lefel 2) i ymuno â'n tîm yn Ysgol Gyfun Birchgrove, ysgol Gyfun ffyniannus a gofalgar yn Abertawe.   

Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy'n ymfalchïo mewn cynnal amgylchedd diogel, glân a chroesawgar i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

Yr oriau gwaith yw 20 yr wythnos/41 wythnos y flwyddyn, sy'n cynnwys 2 wythnos o wyliau'r haf.  Yr oriau yw dydd Llun i ddydd Iau 2.00 pm - 6.15 pm a dydd Gwener 2.00 pm - 6.00 pm. 

Mae'r swydd dros dro am 1 flwyddyn yn y lle cyntaf ac yn dechrau o 1 Ionawr 2025. 

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o www.eteach.com neu drwy gais e-bost i jonesj2069@hwbcymru.net.  

Ysgol Gyfun Birchgrove - Gofalwr - Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr (PDF, 535 KB)

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Gellir dychwelyd ceisiadau drwy e-bost neu bost, ond rhaid iddynt gynnwys ffurflen gais yr ysgol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 8 Rhagfyr 2025 am 12.00 p.m.
Bydd y rhestr fer hefyd yn cael ei gynnal ddydd Llun 8 Rhagfyr 2025

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Rhagfyr 2025