Chwilio'r wefan
English

Dysgu gydol oes - Ffotograffiaeth digidol am lefel uwch

Bydd y dosbarth hwn yn addas i chi os ydych chi am ddatblygu eich portffolio gwaith eich hun, yn seiliedig ar eich diddordebau mewn ffotograffiaeth.

Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr sydd a chryn ddealltwiriaeth o greu ffotograffau i ddefnyddio eu delweddau ar gyfer gwahanol dduliau cyflwyno. Ffotomontage, llyfrau ffotograffau a lluniau mowntio at ddibenion arddangos yw rhai o'r pynciau dan sylw. Bydd y sesiynau yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiadau ffotograffiaeth ymhellach gan ddefnyddio gosodiadau llaw, golau sydd ar gael, yn ogystal a ffotograffiaeth macro, portread a thirwedd gan ddefnyddio amrywiaeth o lensys.

Bydd myfyrwyr yn tynnu lluniau trwy gydol y cwrs, gan weithio ar eu prosiectau unigol ac fel grwp byddant yn mynd allan ar lleoliad.

Yn addas ar gyfer: Lefel uwch.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer ffotograffwyr sydd eisoes wedi cwblhau cwrs i wella mewn ffotograffiaeth ac sy'n gymwys i ddefnyddio rhaglenni a gosodiadau eu camera, gan gynnwys modd llaw, sy'n gallu deall dyfnder y maes, ISO, darlleniadau mesurydd a chydbwysedd gwyn, yn ogystal a gweithio gyda'r golau sydd ar gael. Byddwch hefyd yn gyfarwydd a ffotograffiaeth macro.

Hyd: 10 wythnos.

Ffi: £69 - ffi iawn / £48 - ffi consesiwn.

Beth fydd ei angen arnoch chi

Camera digidol, beiro, llyfr nodiadau a ffolder i storio taflenni. Bydd angen ffon gof arnoch chi hefyd.

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Tiwtor

Cod

Dydd Mercher 2 Hydref 20199.30am - 11.30amYstafell TG 2.1.17a Y Canolfan DdinesigLiz Barry1741
Dydd Mercher 15 Ionawr 20209.30am - 11.30amYstafell TG 2.1.17a Y Canolfan DdinesigLiz Barry1742
Dydd Mercher 22 Ebrill 20209.30am - 11.30amYstafell TG 2.1.17a Y Canolfan DdinesigLiz Barry1743

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM