Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwydded safle carafanau a gwersylla

Mae angen ar safle a ddefnyddir ar gyfer carafanau a gwersylla drwydded gennym i weithredu.

Mae'r drwydded yn cynnwys amodau diogelwch tân, toiledau a chyfleusterau ymolchi i wersyllwyr.  Rydym yn cynnal cofrestr o safleoedd carafanau a gwersylla yn Abertawe sy'n drwyddedig gyda ni.

Mae gan rai sefydliadau megis Clybiau Carafán, y Geidiau a Chymdeithas y Sgowtiaid eithriadau rhag trefniadau.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Gwneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla ar-lein Gwneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla ar-lein

Mae'n rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r cais. 

Cydsyniad mud

Mae gennym gyfnod cwblhau targed, sef 40 niwrnod ar gyfer yr hysbysiad hwn.  Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn.  Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 40 niwrnod, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.

Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau ar ôl cael cais cyflawn, gan gynnwys dogfennau ategol.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio i'w Llys Ynadon lleol.

Gwneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla ar-lein

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla. Nid oes unrhyw ffi i'w thalu ar gyfer y drwydded hon.

Cofrestr safleoedd carafanau a gwersylla cofrestredig

Rydym yn trwyddedu safleoedd carafanau a gwersylla ar draws y sir. Mae ein cofrestr yn cynnwys y lleoliad, nifer y lleiniau cofrestredig a phryd bydd y safle ar agor.
Close Dewis iaith