Chwilio'r wefan
English

ADY - Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau y mae rhieni / gofalwyr yn eu gofyn yn aml am anghenion dysgu ychwanegol

Beth yw angehnion dysgu ychwanegol (ADY)?

Bydd gan blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol anhawster dysgu neu anabledd a fydd yn ei gwneud hi'n anos iddynt ddysgu na'r rhan fwyaf o blant o'r un oed. Gall fod angen cefnogaeth ychwanegol ar blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol neu help sy'n wahanol i'r hyn a roddir i blant eraill.

Efallai bydd angen help ychwanegol ar blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol oherwydd amrywiaeth o anghenion megis meddwl a deall, anawsterau corfforol neu synhwyraidd, anawsterau iaith a lleferydd neu sut maent yn cysylltu a phobl eraill ac yn ymddwyn gyda hwy.


Beth yw Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni?

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni. mae'n wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd i rieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol.


Beth yw Gweithredu Ysgol?

Pan fydd athro dosbarth neu Gydlynydd ADY yn gweld bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), dylai ddarparu cefnogaeth sy'n ychwanegol at (neu'n wahanol i) yr hyn a ddarperir fel rhan o gwricwlwm gwahaniaethol arferol yr ysgol. Rhaid i'r ysgol ddweud wrthych pan fydd yn dechrau darparu help ychwanegol neu wahanol i'ch plentyn oherwydd ei ADY, a rhaid iddi roi gwybodaeth i chi'n rheolaidd am gynnydd eich plentyn.


Beth yw Gweithredu ysgol a Mwy?

Os nad yw'ch plentyn yn gwneud digon o gynnydd yn yr ysgol o hyd, dylai'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd ADY siarad a chi am geisio cyngor gan bobl eraill y tu allan i'r ysgol. Ar y cam hwn, gall yr ysgol geisio cyngor a chymorth gan wasanaethau allanol, a ddarperir gan y cyngor ac asiantaethau allanol (e.e. athro arbenigol, seicolegydd addysg, therapydd iaith a lleferydd neu weithiwr iechyd proffesiynol).


Beth yw adolygiad blynyddol?

o leiaf unwaith y flwyddyn, caiff CD(A)U eich plentyn ei adolygu a threfnir cyfarfod i drafod cynnydd eich plentyn. Gelwir hyn yn adolygiad blynyddol. Diben yr adolygiad yw sicrhau o leiaf unwaith y flwyddyn fod yr holl weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud ag addysg eich plentyn yn monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd a pherthnasedd parhaus anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn.


Beth yw Cynllun Datblygu Addysg Unigol - CD(A)U?

Caiff Cynllun Datblygu (Addysg) Unigol, CD(A)U ei lunio gan yr athro dosbarth i helpu'r rhiant a'r ysgol nodi anghenion y plentyn a thargedu meysydd anhawster penodol. Mae CD(A)U fel arfer yn gysylltiedig a'r prif feysydd iaith, llythrennedd, mathemateg, ymddygiad a sgiliau cymdeithasol.


Beth yw asesiad?

Gellir cynnal asesiad gyda'ch plentyn er mwyn nodi ei gryfderau a'i anghenion. Gall gweithio yn y ffordd hon helpu'r ysgol i ddatblygu cynllun cefnogaeth a sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion eich plentyn yn y ffordd fwyaf addas. Gall staff yr ysgol neu staff addysg yr awdurdod lleol (e.e. seicolegwyr addysg neu athrawon ymgynghorol) gynnal asesiadau.

Gall gwahanol fathau o asesiadau dargedu amrywiaeth o feysydd (e.e. darllen, dealltwriaeth, sgiliau iaith, sgiliau rhif a hunan-barch). Defnyddir canlyniadau'r mathau hyn o asesiadau i gynllunio'r ffordd ymlaen ar gyfer eich plentyn. Gellir adolygu'r asesiadau hyn o bryd i'w gilydd i sicrhau bod y cynllun cefnogi'n parhau i fod yn addas i'ch plentyn.


Rwy'n credu bod gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Beth gallaf ei wneud?

Os oes gennych bryderon am gynnydd eich plentyn:

  • Ydych chi wedi siarad ag ysgol eich plentyn ynghylch eich pryderon?
  • Ydych chi'n gwybod sut mae'r ysgol yn gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol?
  • Ydych chi'n gwybod os yw eich plentyn ar un o gamau'r Cod Ymarfer ac os felly, pa un?
  • A oes gan eich plentyn Gynllun Addysg Unigol (CAU) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU)?
  • A phwy y dylech siarad yn yr ysgol?

Os ydych yn meddwl bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol nad ydynt wedi'u nodi gan yr ysgol neu leoliad addysg gynnar, dylech siarad ag athro dosbarth eich plentyn, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY) neu'r pennaeth. Byddant yn gallu dweud wrthych am bolisi'r ysgol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, y gefnogaeth a'r adnoddau y gall yr ysgol eu darparu a'r help sydd ar gael o'r tu allan i'r ysgol.


Rwyf wir yn pryderu am gynnydd fy mhlentyn. Mae'n cael anhawster ai' gwaith ysgrifenedig ac mae ymhell y tu ol i ddarllenwyr yn ei dosbarth. Beth gallaf ei wneud?

Eto, mae pob plentyn yn wahanol. Y peth cyntaf i'w wneud yw trefnu cyfarfod gyda'r athro dosbarth i drafod eich pryderon am eich plentyn. Gall yr athro dosbarth gysylltu a'r Cydlynydd ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) i drafod unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd o bosib gan eich plentyn a phenderfynu arnynt.

Gall athrawon geisio cefnogaeth gweithwyr proffesiynol arbenigol, er enghraifft athrawon ymgynghorol neu seicolegydd addysg neu blant. Fel rhan o'r broses hon, efallai caiff eich plentyn ei asesu. Diben hyn yw penderfynu ar y ffordd orau i'w gefnogi a'i ddysgu.

Os yw'ch plentyn yn gwneud cynnydd arafach na'r disgwyl, neu mae eich athro'n darparu cefnogaeth, help neu weithgareddau gwahanol, ni ddylech dybio bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig. Siaradwch a'ch athro dosbarth - mae athrawon bod amser yn awyddus i helpu.


Rwy'n pryderu bod fy mhlentyn yn cael anawsterau yn yr ysgol. Beth gallaf ei wneud?

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn cael anawsterau, dylech siarad ag unrhwy un o'r canlynol:

  • athro dosbarth eith plentyn neu ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar;
  • Cydlynydd ADY yr ysgol (dyma'r person yn yr ysgol neu'r lleoliad blynyddoedd cynnar sydd a chyfrifoldeb penodol am gydlynu help ar gyfer eich plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol);
  • y pennaeth;
  • y cefnogwr rhieni annibynnol;
  • eich ymwelydd iechyd neu feddyg;
  • eich gweithwir cymdeithasol;
  • y gwasanaeth seicoleg addysg;
  • y tim addysgu ymgynghorol (tim cefnogi Dysgu a Chynhwysiad);
  • Tim Cefnogaeth Synhwyraidd;
  • cefnogaeth gan y Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion;
  • allgymorth gan ysgol arbennig neu ganolfan arbenigol.

Os nad ydych yn fodlon ag ymateb, dylech gysylltu a'ch awdurdod addysg lleol i drafod eich pryderon.


Sut bydd fy ysgol leol yn helpu fy mhlentyn?

  • drwy wahaniaethu tasgau (hy. gwneud tasgau'n symlach neu eu teilwra er mwyn iddynt fod yn addas i allu eich plentyn);
  • cynnig gwahanol ffyrdd o gofnodi gwybodaeth (e.e. labelu lluniau, diagramau neu siartiau llif);
  • drwy ddefnyddio gweithgareddau amlsynhwyraidd;
  • drwy rannu'r dysgu'n gamau bach hylaw;
  • drwy helpu plant i drefnu eu gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio fframiau ysgrifennu;
  • drwy ganiatau amser ychwanegol i gwblhau tasgau;
  • drwy gadw cyfarwyddiadau'n fyr ac yn glir;
  • drwy ganmol ac annog y plentyn am ei lwyddiannau yn gyson.

Gall rhai plant weithio gyda chynorthwy-ydd addysgu - cyn, yn ystod neu ar ddiwedd gwers. Fodd bynnag, dylid annog plant i weithio'n annibynnol lle bynnag y bo modd.


Pa fath o wybodaeth ddylai fod ar gael i rieni gan ysgol eu plentyn?

Dylai eich ysgol leol ddarparu'r canlynol i chi:

Prosbectws

Mae'r prosbectws fel arfer yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am yr ysgol (e.e. pa bynciau a asudir, hyd y diwrnod ysgol, manylion y wisg ysgol, gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, materion iechyd etc).

Polisiau

Rhaid bod gan ysgolion bolisiau ysgrifenedig ar faterion sy'n ymwneud a rheolir ysgol yn effeithiol.

Cylchlythyrau

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn anfon cylchylthyrau rheolaid at rieni sy'n rhoi gwybodaeth am fywyd yr ysgol (e.e. digwyddiadau a gweithgareddau, diwrnodau cau'r ysgol ar gyfer hyfforddiant mewn swydd (HMS), newidiadau staff etc.)

Adroddiadau disgyblion

Rhaid i ysgolion anfon adroddiad ysgrifenedig o leiaf unwaith y flwyddyn at rieni o oed ysgol gorfodol. Dylai'r adroddiad egluro cynnydd, cryfderau a gwendidau disgybl. Ni ddylai'r adroddiad ysgol gael ei ddefnyddio i godi materion a rhieni am y tro cyntaf am gynnydd eu plentyn.

Adroddiadau ysgol eich plentyn

Fel rhiant, mae gennych hawl i gael mynediad at gofnod addysgol eich plentyn. Mae'n cynnwys gwybodaeth megis cofnodion o gyflawniadau academaidd disgybl yn ogystal a gohebiaeth gan athrawon, gweithwyr yr awdurdod lleol a seicolegwyr addysg a ddefnyddir gan gorff llywodraethu'r ysgol. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth gan y plentyn a gennych chi fel rhiant. (Os oes angen y fath wybodaeth arnoch am eich plentyn, dylech gyflwyno cais yn ysgrifenedig i'ch pennaeth).

Cofnodion eraill y gellir eu cynnwys

Gall fod gan ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac y mae angen cefnogaeth ychwanegol ac y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt gan yr ysgol Gynllun Datblygu (Addysg) Unigol. Gelwir hyn weithiau'n gynllun gweithredu oherwydd dylai ddisgrifio:

  • anghenion arbennig y plentyn;
  • sut mae'r ysgol yn ceisio diwallu'r anghenion hynny a'r math o gymorth a gaiff ei ddarparu;
  • targedau i'r plentyn weithio tuag atynt;
  • sut bydd yr ysgol yn mesur llwyddiant a pha mor aml yr adolygir y cynllun.

Fe'i hystyrir yn arfer da i ymgynghori a rhieni ar y cynllun ac i'r cynllun gynnwys gwybodaeth am yr hyn y gall rhieni ei wneud gartref i atgyfnerthu'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol. Dylai ysgolion wahodd rhieni i ddod i'r adolygiad o'r cynllun.

Cytundebau cartref ysgol

Rhaid bod gan bob ysgol Gytundeb Cartref Ysgol sy'n esbonio nodau a gwerthoedd yr ysgol ac yn nodi cyfrifoldebau disgyblion, rhieni a'r ysgol o ran y fath bethau:

  • cynnal disgyblaeth ac ymddygiad cadarnhaol;
  • presenoldeb rheolaidd;
  • gwaith cartref;
  • cynnal amgylchedd dysgu cadarnhaol a hapus;
  • ymrwymiad yr ysgol i'w disgyblion;
  • yr hyn a ddisgwylir gan rieni a disgyblion.

Mae nosweithiau rhieni/ymgynghoriadau a nhw'n gyfle i edrych ar waith eich plentyn a thrafod cynnydd a'r athro/athrawon. Fodd bynnag, efallai y cewch eich cyfyngu i sesiwn 5 i 10 munud a'r athro ac os oes gennych lawer i'w drafod, efallai bydd yn ddefnyddiol i chi:

  • ysgrifennu at yr athro cyn y cyfarfod i roi gwybod iddo am y materion rydych am eu codi, neu
  • ofyn am apwyntiad arall er mwyn cael mwy o amser i drafod.

Beth yw Cod Ymarfer AAA?

Mae'r Cod Ymarfer AAA, a gyhoeddwyd ym 1994 (a'i ddiweddaru yn 2000) yn darparu arweiniad a chyngor ymarferol i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau addysg gynnar ac eraill ar sut i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Addysg 1996.

Ni fydd yr holl blant ag anghenion dysgu ychwanegol yr un peth, felly mae'r Cod Ymarfer yn dweud bob ymateb graddedig i ddiwallu eu hanghenion.

Mae dyletswydd ar yr holl awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau addysg gynnar a'r rheiny sy'n eu helpu (sy'n cynnwys y gwasanaeth iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol) i'w 'ystyried'. Mae hyn yn golygu na allant anwybyddu'r Cod Ymarfer. Mewn geiriau eraill, er nad oes yn rhaid i ysgolion, awdurdodau lleol nac eraill wneud popeth yn union fel yr awgrymir gan y cod, rhaid eu bod yn gallu cyfiawnhau pam eu bod yn teimlo ei bod hi'n well gwneud pethau'n wahanol.

Mae'r egwyddorion sylfaenol canlynol yn sail i'r arweiniad a roddir yn y cod:

  • dylid diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plentyn;
  • bydd ysgolion prif ffrwd neu leoliadau addysg gynnar fel arfer yn diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant;
  • dylid ceisio ac ystyried barn y plentyn;
  • mae gan rieni rol hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi addysg eu plentyn;
  • dylid cynnig mynediad llawn at gwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys cwricwlwm priodol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM