Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Nodiadau i geidwaid siopau anifeiliaid anwes

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes dylech ddarllen yr arweiniad hwn fel eich bod yn deall sut mae trwyddedu'n gweithio, a'r hyn sy'n ddisgwyliedig gennych fel ceidwad y siop anifeiliaid anwes.

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn gwahardd cadw siop anifeiliaid anwes ac eithrio dan drwydded a roddir gan yr awdurdod lleol.

At ddibenion y Ddeddf, ystyr y term "siop anifeiliaid" yw rhedeg busnes gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes mewn unrhyw fangre.

Trwyddedu siopau anifeiliaid anwes

O dan y Ddeddf, rhaid gwneud cais am drwydded o'r fath i'r awdurdod lleol. Gall yr awdurdod lleol roi trwydded cadw siop anifeiliaid, y gellir ei hadnewyddu'n flynyddol, i unrhyw berson nad yw wedi'i wahardd yn flaenorol o dan y Ddeddf.

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol fodloni'i hun y caiff rhai amodau statudol gofynnol eu cyflawni gan y sefydliad.

Yn ogystal, mae gan yr awdurdod lleol rym i wrthod trwydded am "resymau eraill" yn ôl ei ddisgresiwn.

Codir ffi lle rhoddir trwydded. Bydd trwydded yn dod i ben dan amodau arferol ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n gysylltiedig â hi.

Dyletswydd yr awdurdod lleol

Wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded, mae'n rhaid i awdurdod lleol ystyried yr angen i sicrhau:

  • bod yr anifeiliaid yn cael  cyflenwad digonol o fwyd a diod addas ac yr ymwelir â hwy'n rheolaidd (yn ôl yr angen)
  • y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn safle priodol ar bob adeg, sy'n ystyriol o faint, tymheredd, goleuadau, awyru a glendid
  • na fydd anifeiliaid, sy'n famaliaid, yn cael eu gwerthu pan maent yn rhy ifanc
  • y cymerir yr holl ragofalon rhesymol i atal ymlediad clefydau heintus rhwng anifeiliaid
  • bod perchnogion yn darparu rhagofalon diogelwch yn erbyn tân ac argyfyngau eraill

Mae'n rhaid i'r drwydded nodi'r fath amodau a fydd yn sicrhau bod y pethau a enwir uchod yn cael eu sicrhau.

Hawl ymgeisydd i apelio yn erbyn gwrthodiad

Gall y trwyddedai neu'r darpar drwyddedai sy'n tybio iddo gael cam am fod yr awdurdod lleol wedi gwrthod rhoi trwydded, neu oherwydd unrhyw amod y cynigir rhoi trwydded o'r fath yn amodol arno, apelio i'r Llys Ynadon;  a chydag apêl o'r fath, gall y llys roi cyfarwyddyd o ran rhoi trwydded, neu o ran yr amodau y mae rhoi trwydded yn amodol arnynt, fel y gwêl yn briodol.

Troseddau yn erbyn y Ddeddf

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer y troseddau canlynol:

  • cadw siop anifeiliaid anwes heb drwydded
  • mynd yn groes i unrhyw un o amodau'r drwydded neu beidio â chydymffurfio â hwy
  • rhwystro neu lesteirio unrhyw berson wrth iddo arfer ei bwerau mynediad neu archwilio
  • gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes fel rhan o fusnes mewn unrhyw stryd neu le cyhoeddus neu ar stondin yn y farchnad
  • gwerthu anifail fel anifail anwes i berson sydd dan 12 oed

Archwilio siopau anifeiliaid anwes

O dan y Ddeddf, rhoddir pwerau i'r awdurdod leol awdurdodi unrhyw un o'i swyddogion neu ei filfeddyg neu ymarferydd milfeddygol i archwilio unrhyw eiddo yn ei ardal y rhoddwyd trwydded iddo o dan y Ddeddf ac sydd mewn grym o hyd. Mae gan y fath berson, pan fydd yn dangos bod ganddo'r awdurdod, os oes angen hynny, hawl statudol i fynd i mewn i'r eiddo ar bob adeg resymol at y dibenion canlynol:

  • archwilio'r eiddo
  • archwilio'r anifeiliaid yn yr eiddo
  • cadarnhau a gyflawnwyd trosedd neu a yw trosedd yn cael ei chyflawni yn yr eiddo.