Toglo gwelededd dewislen symudol

Defnyddio'r catalog

Sut mae cael y gorau o chwilio'r catalogau.

Chwiliwch y catalog (Yn agor ffenestr newydd)

Chwiliad cyflym

Y ffordd symlaf o chwilio'r gronfa ddata yw nodi term yn y blwch ym mhen uchaf y sgrîn ar y dde a chlicio ar y botwm chwilio drws nesaf iddo.

Chwilio manwl

Os ydych yn credu bod chwiliad cyflym yn debygol o ganfod gormod o ganlyniadau, cliciwch ar 'chwiliwch y catalog' uchod. Bydd hyn yn rhoi'r dewis i chi chwilio meysydd penodol yn y gronfa ddata, yn ogystal â chwilair "unrhyw destun". Mae rhai o'r blychau ar yr dudalen chwilio manwl yn cynnwys dolen "mireiniwch y chwiliad". Bydd clicio ar hon yn rhoi dewisiadau chwilio ychwanegol i chi.

Lledu eich chwiliad

Bydd chwilio yn dod o hyd i'r union eiriau a ddefnyddiwyd yn y catalog yn unig, felly os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano, mae'n aml yn well rhoi cynnig ar nifer o dermau cysylltiedig. Felly, os ydych yn chwilio am ddeunydd am Harbwr Nedd, rhowch gynnig ar eiriau cysylltiedig fel 'llongau', 'llongiadau', 'cychod', 'morol', 'doc'.

Gallwch hefyd chwilio am ran o air drwy ddefnyddio nod-chwilio (*) - felly bydd 'ship*' yn codi 'ship', 'ships', 'shipping', ac unrhyw air arall sy'n dechrau gyda 'ship-'. Nodwch bod ein catalogau ddim wedi cael eu cyfieithu i iaith arall. Mae rhai ohonyn nhw yn y Gymraeg (os Cymraeg ydy iaith y cofnodion gwreiddiol), ond mae'r rhan fwyaf yn Saesneg.

Canlyniadau chwilio

Caiff canlyniadau eich chwiliad eu harddangos mewn tabl. Os bydd angen, gallwch aildrefnu rhestr y canlyniadau fesul maes o'ch dewis drwy glicio ar bennawd y golofn.

Cliciwch ar gofnod yn rhestr y canlyniadau i weld disgrifiad mwy manwl. Bydd siart hierarchaidd uchod yn dangos lleoliad y cofnod yn ei gyd-destun yn y casgliad. I ddychwelyd i drosolwg y canlyniadau chwilio, defnyddiwch y botwm 'nôl' ar eich porwr.

Os hoffech weld y cofnod yn ei gyd-destun hierarchaidd (h.y. sut mae'n gysylltiedig â chofnodion eraill yn y casgliad), cliciwch ar 'cyfeirnod'.

Close Dewis iaith