Toglo gwelededd dewislen symudol

Archif Sgrîn a Sain Gorllewin Morgannwg

Ein casgliadau ffilm a recordiadau sain wedi'u lleoli yn y Canolfan Ddinesig, Abertawe

Screen and Sound Archive
Beth yw yr Archif Sgrîn a Sain, a sut gallaf i gael mynediad ato? 

Mae Archif Sgrin a Sain Gorllewin Morgannwg yn gasgliad o ddefnyddiau clyweled, yn bennaf ffilmiau a recordiadau, a drosglwyddwyd yn ffurf digidol. Mae'r archif yn cynnwys dau ran: mae yna ffilmiau ynglŷn â'r ardal lleol, ac mae recordiadau hanes llafar, sef atgofion pobl lleol wedi'u recordio. 

Rydym wedi creu rhyngwyneb hawdd i'w ddefnyddio i helpu ymchwilwyr i gyrchu'r defnydd swynol sydd ar gael. Mae mynegai pwnc i helpu chi i ffindio'ch ffordd trwy'r recordiadau hanes llafar. Mae'r recordiadau a ffilmiau hyn ar gael i'w gweld a chlywed yn ein Canolfan Hanes Teulu yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Mae bwcio blaenllaw yn hollbwysig. Gallwch chi ddefnyddio'ch clustffonau'ch hun, ond mae clustffonau ar gael i'w benthyg yn yr archifdy.

Recordiadau hanes llafar

Gyda dau ryfel byd, masnach a chyfathrebiad byd-eang, trydan, ceir ac awyrennau, y ryngrwydd a dyn ar y lleuad, roedd yr ugeinfed ganrif yn llawn newid. Mae archifau swyddogol yn delio â gwneud penderfyniadau, busnes a chyfrifyddiaeth, ond nid ydynt yn dangos yn hollol yr effaith ar fywydau pobl gyffredin. Serch hynny, o'r 1970au ymlaen, gwnaeth nifer o unigolion a chymdeithasau hanes lleol recordiadau o'r atgofion pobl lleol a chafodd eu adneuo gyda'r Gwasanaeth Archifau.  Nawr mae gennym gasgliad amhrisiadwy o recordiadau. Ynddynt mae pobl, y cafodd llawer ohonynt eu geni yn oes Fictoria, yn dweud wrthom ni am eu bywydau yn eu geiriau a thafodiaeth eu hunain.

Ffilmiau

Hefyd mae gennym ffilmiau o'r 1950au ymlaen. Maent yn cynnwys seremonïau dinesig a ffilmiau eraill am yr ardal yn y gorffennol. Maent yn dangos yr hen strydoedd a rheilffyrdd, Abertawe wedi'r bomio yn yr Ail Ryfel Byd, Eisteddfod Abertawe a'r Cylch ym 1964 a nifer o lleoliadau sy wedi newid neu diflannu dros y blynyddoedd. 

All y Gwasanaeth Archifau helpu gyda prosiect hanes llafar?

Os ydych yn bwriadu dechrau prosiect hanes llafar, rydym yn hapus rhoi cyngor a chymorth gyda dogfeniad, technoleg a hawlfraint. Hefyd rydym yn mwyn datblygu'r archif Sgrîn a Sain yn bellach, ac os oes gennych recordiadiau o atgofion pobl yr ardal hon rydych yn fodlon adneuo gyda ni, byddwn ni'n falch wrth glywed ohonoch chi. 

Fydd yn bosibl cael copïau o recordiad neu ffilm?

Gall fod yn bosibl, ond mae hawlfraint ar recordiadau swn a ffilmiau yn fater caled. Cliciwch yma am esboniad o'r sefyllfa


Hawlfraint yn ffilmiau a recordiadau sain archif

Fydd yn bosibl cael copïau o recordiad neu ffilm sy gan y Gwasanaeth Archifau?
Close Dewis iaith