Proses chwilio am arbenigwr adeiladu i helpu i drawsnewid gwaith copr wedi dechrau
Chwilir am fusnes o'r radd flaenaf i ymgymryd â gwaith adeiladu hanfodol i adfywio hen ardal ddiwydiannol yn ne Cymru.
Bydd y cwmni sy'n llwyddo yn y broses dendro gystadleuol a gynhelir ledled Ewrop yn trawsnewid ardal allweddol o hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, Abertawe.
Byddant yn sicrhau bod yr ardal hon, gan gynnwys yr adeilad Tŷ Pŵer hanesyddol, yn barod ar gyfer ehangu Distyllfa Penderyn Cymru, a chodi distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd sbon.
Mae caniatâd adeilad rhestredig a chymeradwyaeth cynllunio ar waith ac mae'r cyngor wedi sicrhau grant Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gwerth £3.75m ar gyfer y gwaith. Ariennir gwaith ychwanegol i adeiladau hanesyddol eraill yn y cyffiniau gan gyllid rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ar ddiwedd y flwyddyn hon, a chael ei wneud drwy 2020 a 2021, gyda Penderyn yn bwriadu agor ar y safle yn 2022.
Mwy: Cyfle i gyflwyno cais dendro ar-lein
Llun: Delwedd gan bensaer sy'n dangos sut olwg fydd ar waith adfywio Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.