Newidiadau i'r ffyrdd yng nghanol y ddinas y penwythnos hwn
Bydd modurwyr yn Abertawe'n elwa o ddau welliant i ffyrdd canol y ddinas y penwythnos hwn wrth i Sioe Awyr Cymru gael ei chynnal.
Mae'r ddau'n ymwneud â'r ffyrdd sy'n arwain at gylchfan The Potter's Wheel ar ochr orllewinol Ffordd y Brenin.
Ar Heol San Helen bydd un lôn ddynesu ddwyreiniol dros dro y tu allan i'r YMCA yn cael ei newid yn ddwy lôn o nos Iau. Caiff marciau ffyrdd eu gosod a bydd y newid hwn yn barhaol.
Ar Stryd Dillwyn, bydd y lôn i gyfeiriad y gogledd sydd wedi'i chau dros dro yn cael ei hagor, gan greu dwy lôn. Caiff y lôn hon ei chau eto ddydd Llun er mwyn parhau â'r gwaith gwerth £12m i drawsnewid Ffordd y Brenin.
I gael mwy o wybodaeth am drefniadau traffig yn Abertawe'r penwythnos hwn, ewch i wefan y Sioe Awyr.