Digwyddiad digidol yn rhoi neges gadarnhaol i'r rhai sy'n chwilio am waith
Rhoddwyd blas ar y diwydiant technoleg a digidol i bobl sy'n chwilio am waith yn ystod digwyddiad arbennig yn Abertawe.
Rhoddwyd y cyfle i bobl ddi-waith a wahoddwyd i'r digwyddiad fod yn rhan o weithdai digidol ymarferol trwy garedigrwydd Coleg Gŵyr Abertawe a Technocamps, prosiect ar draws Cymru a arweinir gan Brifysgol Abertawe.
Yn ogystal, cawsant y cyfle i gwrdd â chyflogwyr lleol sy'n cynnig swyddi digidol a chyfleoedd profiad gwaith.
Y bwriad oedd cynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd digidol sydd ar gael yn lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac ysbrydoli pobl i ystyried swyddi digidol.
Cynhaliwyd y digwyddiad cyflogadwyedd digidol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe. Roedd y partneriaid yn cynnwys Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru, Cyngor Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe a Technocamps (www.technocamps.com).
Llun: Pobl a aeth i ddigwyddiad cyflogadwyedd digidol Abertawe.