Gwaith adfer yn bont i'r dyfodol
Bwriedir i eiliad allweddol o ran diogelu tirnod hanesyddol yn Abertawe gymryd lle ddydd Sul 14 Gorffennaf.
Ar y diwrnod bydd craen 53m o uchder yn codi pont wrthbwys Glandŵr, sy'n 110 mlwydd oed, er mwyn ei hadfer.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar ran Cyngor Abertawe. Clustnodwyd y bont gan y cyngor fel nodwedd allweddol o ddyfodol disglair yr ardal gyfagos.
Y nod yw ailosod y strwythur y flwyddyn nesaf ar ôl ei adfer, yn dilyn asesiad a gwaith adfer yn Afon Engineering, Bro Tawe.
Mae arwyddion ffyrdd sy'n rhoi gwybod am y trefniadau cau ffyrdd dros dro ar bont Ffordd Brunel ar waith.
Bwriedir cau'r bont hon nos Sadwrn 13 Gorffennaf o 6pm tan oddeutu 10pm er mwyn gwneud gwaith paratoi.
Bwriedir ei chau'r diwrnod canlynol o 6am am sawl awr wrth i'r gwaith i'w symud cymryd lle.
Yn ystod y gwaith dros dro bydd llwybrau dargyfeirio ag arwyddion a cheidwaid traffig yn helpu gyrwyr. Bydd mynediad ar gael o hyd i'r lleoliadau canlynol:
- Stadiwm Liberty ac Ystâd Ddiwydiannol y Morfa drwy'r A4217 ger y stadiwm
- Parc Manwerthu'r Morfa, Parth Menter Abertawe ac ardal breswyl Copper Quarter drwy'r A4217 ger Canolfan Tenis Abertawe.
O ganlyniad i'r drefn cau ffordd dros dro, bydd y bont ar gau i gerddwyr, ond gallant ddefnyddio'r bont gerddwyr gyfagos. Rydym yn annog y rheiny sydd am wylio'r gwaith o symud y bont i wylio o bellter; bydd personél safle ar gael i'w harwain.