Chwilio'r wefan
English

Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol yn paratoi ar gyfer gorymdaith rhyddid

Mae Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol yn dathlu derbyn Rhyddid er Anrhydedd Abertawe gyda gorymdaith yng nghanol y ddinas ar 27 Gorffennaf.

Dinas a Sir Abertawe

Cynhelir Cyfarfod Seremonïol Cyngor Abertawe yn Siambr Neuadd y Ddinas ar 27 Gorffennaf am 10am.

Bydd archwiliad y tu allan i Neuadd y Ddinas, wedi'i ddilyn gan orymdaith o Neuadd y Ddinas i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar hyd Heol San Helen, Ffordd y Gorllewin, Stryd Rhydychen a Ffordd y Dywysoges. Gweithredir rhaglen dreigl o gau ffyrdd.

Yna, bydd y gatrawd yn arfer ei hawl i orymdeithio yng nghanol y ddinas o Neuadd y Ddinas i dderbynfa VIP yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae'r dathliad rhyddid er anrhydedd yn rhan o ddathliadau i nodi hanner canmlwyddiant ers cyhoeddi Abertawe'n ddinas ac fe'i cynhelir ychydig ddiwrnodau'n unig ar ôl i Catherine Zeta Jones dderbyn yr anrhydedd mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM