Cymorth ariannol yn helpu i drawsnewid safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa
Mae gwaith i adfywio un o safleoedd diwydiannol mwyaf hanesyddol Cymru'n gwneud cynnydd da.
Mae cymorth ariannol yn helpu Cyngor Abertawe i drawsnewid safle Gwaith Copr Hafod-Morfa'r ddinas.
Daeth £1.1m o Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TBA) Llywodraeth Cymru 2018-21. Bydd yr arian hwn yn helpu i adfer hen safleoedd diwydiannol ar safleoedd yr Hafod-Morfa a'r Graig Wen a safleoedd cyfagos.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn newid ardal y Gwaith Copr yn rhywbeth y gall Abertawe fod yn falch ohono yn y dyfodol.
"Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd eisoes yn cael ei wneud yno; bydd yr arian hwn gan TBA yn gymorth enfawr.
"Mae Abertawe'n ddinas sy'n gwneud cynnydd - mae'r cannoedd o filiynau o bunnoedd sy'n cael eu buddsoddi o gwmpas y ddinas yn brawf o hynny. Wrth i ni ddathlu ein 50 o flynyddoedd cyntaf fel dinas, mae'r stori newyddion da yn gwella ac yn gwella,"
MeddaiHannah Blythyn, Dirprwy Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, "Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i wella'r safle i ddenu busnesau a datblygiadau cyffrous i'r gweithfeydd copr. Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn tyfu ac yn ffynnu, gan greu swyddi a dod â mwy o fuddsoddiad i Abertawe.
"Mae ein rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio flaenllaw yn darparu gwerth £100m o arian cyfalaf dros dair blynedd i gefnogi prosiectau adfywio mewn canol trefi a'r ardaloedd cyfagos ar draws Cymru."
Bydd cynllun ariannu TBA yn arwain at welliant gwerth bron £5m trwy arian grant i fangreoedd busnes yn Abertawe.
Mae'r cynlluniau presennol i adfywio safle Gweithfeydd Copr yr Hafod-Morfa, hen safle diwydiannol, yn cynnwys Distyllfa Penderyn yn ehangu yno a gwaith i gadw cyfres o adeiladau ac adeileddau hanesyddol, gan gynnwys y pwerdy. Caiff yr elfen hon ei ariannu drwy gais llwyddiannus gan y cyngor i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am grant gwerth £3.75m.
Mae cynlluniau cyflenwol i'r ardal yn cynnwys reid car cebl a weiren wib gyflym iawn o Fynydd Cilfái.
Mae cynlluniau a ariennir gan TBA yn y gweithfeydd copr yn cynnwys:
- Symud, adfer ac ailosod Pont Wrthbwys y Morfa o'r 20fed ganrif;
- Adnewyddu plisgyn a chraidd Peiriandai Musgrave a Vivian. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau.
Yr arianwyr ar gyfer cynlluniau'r gweithfeydd copr yw'r cyngor, Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol, Cadw.