Chwilio'r wefan
English

Diwrnod arbennig i Catherine Zeta-Jones wrth iddi dderbyn Rhyddid er Anrhydedd

Mae'r actores sydd wedi ennill Oscar, Catherine Zeta-Jones, wedi derbyn Rhyddid er Anrhydedd ei ddinas enedigol mewn seremoni ysblennydd yn Neuadd y Ddinas Abertawe.

Catherine Zeta Jones

Cafodd yr actores o fri, ei gŵr Michael Douglas a'u plentyn, Dylan, gryn sylw mewn digwyddiad a gafodd ei weddarlledu'n fyw o'r ddinas lle'i magwyd wrth iddi dderbyn yr anhrydedd uchaf y gall ei chymuned ei roi.

Yn dilyn y seremoni, aeth Catherine ymlaen i gynnal noson o adloniant yn Neuadd Brangwyn, gan rannu atgofion am ei phlentyndod yn Abertawe a'i gyrfa ym myd y theatr a ffilm.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys neges annisgwyl o longyfarchiadau gan Syr David Jason, a oedd yn chwarae cymeriad Pa Larkin - tad Mariette, sef cymeriad Catherine - yn The Darling Buds of May - y sioe ar ITV sy'n gyfrifol am droi Catherine yn seren.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Roeddem wrth ein boddau bod Catherine Zeta-Jones wedi dychwelyd i'w dinas enedigol heddiw i dderbyn yr anrhydedd uchaf y gall ei dinas ei rhoi.

"Mae Catherine yn un ohonom, ac mae hi bob amser wedi cadw mewn cysylltiad â'i dinas enedigol. Catherine yw un o'r bobl fwyaf adnabyddus yn y byd ac mae pobl Abertawe wedi dilyn ei gyrfa gyda diddordeb mawr.

Dechreuodd Catherine Zeta-Jones ei gyrfa ar y llwyfan yn Llundain cyn dod yn seren deledu yn yr addasiad poblogaidd o lyfr HE Bates, 'The Darling Buds of May

Enillodd Wobr yr Academi am ei phortread o Velma Kelly yn yr addasiad sgrîn o un o sioeau cerdd Broadway, Chicago. Enwebwyd Catherine hefyd am wobr Golden Globe ac enillodd wobr Dewis y Beirniaid, Gwobr Urdd yr Actorion Sgrîn a gwobr BAFTA ar gyfer Actores Ategol Gorau am ei pherfformiad.

Yn ystod ei gyrfa mae Catherine wedi bod yn llysgennad dros Abertawe ac mae hi wedi gweithio gyda nifer o elusennau. Yn 2010, dyfarnwyd Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i'r diwydiant ffilm ac elusennau.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM