Lleoliadau gorau'n denu bron 1.3 miliwn o ymwelwyr mewn blwyddyn
Denodd tri o atyniadau hamdden a diwylliannol gorau Abertawe bron 1.3 miliwn o bobl mewn blwyddyn, yn ôl adroddiad i Gyngor Abertawe.
Rhyngddynt, denodd yr LC, Amgueddfa Genedlaethol Glannau Abertawe a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe 1.29 miliwn o ymwelwyr yn 2017/18, gyda mwy nac 805,000 ohonynt yn mynd i'r LC.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r ffigurau hyn yn dangos bywiogrwydd y lleoliadau fel atyniadau rhagorol i bobl Abertawe ac ymwelwyr ymhellach i ffwrdd.
Ychwanegodd, "Mae ein cyfraniad at yr atyniadau allweddol hyn yn dangos ymroddiad hirsefydlog y cyngor i iechyd a lles ein preswylwyr a bywyd diwylliannol y ddinas. Fel atyniadau hamdden, maent hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at ein diwydiant twristiaeth, sy'n werth £440 miliwn y flwyddyn ac yn cefnogi mwy na 5,000 o swyddi."