Chwilio'r wefan
English

Y cyngor yn dod i'r adwy i achub Theatr y Palas

Bydd Cyngor Abertawe'n dod i'r adwy i achub un o drysorau pensaernïol canol y ddinas.

Swansea Council Logo (Portrait)

Ni ddefnyddiwyd adeilad hanesyddol ac enwog Theatr y Palas am dros ddegawd, ac mae'n adfeiliedig erbyn hyn.

Nawr gofynnir i Gabinet y cyngor gymeradwyo cynllun i roi bywyd newydd i'r adeilad, gan ddiogelu ei ffasâd enwog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Ein cynllun yw prynu'r adeilad a'i adfywio fel lle swyddfa mawr ei angen, gan ddefnyddio peth ohono at ddibenion cymunedol hefyd.

"Yn ogystal ag achub yr adeilad pensaernïol hwn i'r ddinas, gallwn hefyd helpu i adfywio pen uchaf y Stryd Fawr. Byddai canol y ddinas a'r gymuned leol yn elwa o hyn am flynyddoedd i ddod."

Adeiladwyd Theatr y Palas 131 o flynyddoedd yn ôl a chafodd fywyd brith fel theatr, sinema a chlwb nos, a gaeodd yn 2007. Ymhlith y rhai a berfformiodd yno oedd Charlie Chaplin, Syr Anthony Hopkins, Morecambe and Wise a Ken Dodd.

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM