Chwilio'r wefan
English

Sut y gwnaeth Abertawe atgyfodi o lwch y blitz tair noson ar ôl y rhyfel

Mae llyfr newydd am Abertawe ar ôl y rhyfel yn taflu goleuni newydd ar y gwaith i ailadeiladu tref a oedd i ddod yn ddinas.

Castle Square

Mae'n cael ei gyhoeddi gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ac fe'i hysgrifennwyd gan yr academydd sydd bellach wedi ymddeol, Dr Dinah Evans o Brifysgol Bangor, sydd wedi bod yn gweithio ar y llyfr am dros ddegawd. 

Mae wedi ymchwilio i'w phwnc yn drylwyr yn Archifau Gorllewin Morgannwg ac yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew, yn ogystal â threulio oriau lawer yn darllen drwy erthyglau cyfoes yn y wasg leol.

Meddai Dr Evans, "O ganlyniad i fomio trwm yn ystod y rhyfel, ailddiffiniwyd tirlun trefol canol Abertawe. Mae fy llyfr i'n dadansoddi'r ymrafael rhwng gweledigaethau cystadleuol cynllunwyr y dref pobl busnes leol, llywodraeth ganolog a lleol ynghylch sut y dylid ailadeiladu'r dref.

Mae'r llyfr yn costio £20 ac mae ar gael o Archifau Gorllewin Morgannwg yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe neu ar-lein yn https://www.swanseashop.co.uk/shop/rebuilding-swansea-1941-1961-pre-order/

Wedi'i bweru gan GOSS iCM