Chwilio'r wefan
English

Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Bydd rhedwyr gosod cyflymder wrth law yn ras 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn i helpu rhedwyr i gwblhau'r ras o fewn yr amser yr oeddent yn anelu amdano.

10k18

Yn nigwyddiad eleni ar 22 Medi, bydd pum rhedwr gosod cyflymder a fydd yn gorffen mewn 40 munud, 45 munud, 50 munud, 55 munud a 60 munud.

Daw'r rhedwyr gosod cyflymder o glwb hen sefydledig rhedwyr ffordd cwmni 3M Gorseinon. Mae pob un ohonynt yn rhedwyr neu'n rhedwyr gosod cyflymder profiadol a fydd yn gwirfoddoli er mwyn helpu rhedwyr i gyflawni eu nodau personol.

Bydd amser dechrau newydd ar gyfer y ras sef 11am.

Yn ogystal â phrif ddigwyddiad y 10k, cynhelir rasys iau 1k a 3k, yn ogystal â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn. Cynhelir sbrint 100m blynyddol y masgotiaid ychydig ar ôl y ras 10k, o'r tu allan i faes rygbi San Helen.

Croesewir gwylwyr o 8.30am.

Ewch i www.10kbaeabertawe.com am ragor o wybodaeth.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM