Chwilio'r wefan
English

Abertawe Agored 2019

Arddangosfa Glynn Vivian

Swansea Open 2019 RM_031217_Swansea_Open_003.jpg
7 Rhag 2019 - 23 Chwef 2020
10.00AM. Tan 17:00
Glynn Vivian
Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ

Parti Agoriadol: 07.12.19, 14:00 - 16:00

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi dychweliad y dathliad blynyddol o gelfyddydau a chrefftau gan artistiaid a chrewyr sy'n byw ac yn gweithio yn Ninas a Sir Abertawe.

Mae'r arddangosfa ar agor i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn SA1-SA9, gan gynnwys artistiaid a chrewyr proffesiynol a rhai sydd, heb astudio'n ffurfiol, wedi darganfod y manteision a'r heriau sy'n deillio o weithgarwch creadigol.

Nod yr arddangosfa yw dangos detholiad amrywiol o waith ar draws amrywiaeth eang o gyfryngau gan gynnwys paentio, darlunio, cerflunio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a ffilmiau.


Dyddiadau allweddol:

  • Cyflwyno darnau o waith: Dydd Sadwrn 23 neu ddydd Sul 24 Tachwedd 2019, 11:00-16:00
  • Parti Agoriadol: Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr, 14:00-16:00
Wedi'i bweru gan GOSS iCM