Ceisiadau Cynllunio HMO
O'r dudalen hon gallwch wneud cais am Brawf Crynhoad HMO, chwilio'r rhestr lawn o eiddo sydd wedi cael caniatâd cynllunio fel HMO a gweld y gofrestr gyhoeddus o HMOs trwyddedig
Prawf Crynhoad HMO
Bydd pob cynnig a gyflwynir i newid defnydd eiddo a sefydlu HMO newydd yn amodol ar Bolisi H 9 y Cynllun Datblygu Lleol, sy'n nodi nifer o feini prawf y dylai cynigion HMO eu hystyried. Mae'r CDLl ar gael i'w lawrlwytho yn https://www.abertawe.gov.uk/cdll. Hefyd, caiff cynigion eu hystyried yn erbyn y Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd gan y cyngor ac sy'n ymdrin â Thai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr sydd ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/cca.
Dylid rhoi ystyriaeth lawn i'r holl feini prawf perthnasol er mwyn penderfynu os yw cynnig yn dderbyniol. Mae sawl meini prawf yn gosod profion a fydd yn llywio'r broses o benderfynu a fyddai'r cynnig yn golygu y gallai nifer yr HMOs fod yn niweidiol. Nodir y rhain isod.
Prawf 1 - 'Prawf Radiws'
- O fewn yr Ardal Rheoli HMOs ddiffiniedig (a ddangosir ar Fap Cynigion y CDLl), ni ddylai cynigion HMO arwain at ddefnyddio dros 25% o'r holl eiddo preswyl o fewn radiws 50 metr o'r cynnig fel HMOs.
- Y tu allan i'r Ardal Rheoli HMO, ni ddylai cynigion HMO arwain at newid dros 10% o'r holl eiddo preswyl o fewn radiws 50m o'r cynnig yn HMOs.
Prawf 2 - 'Prawf Stryd Fechan'
- Ni chaiff cynigion ar gyfer HMO ar 'strydoedd bach' nad ydynt yn torri terfyn y trothwy radiws 50m eu cefnogi os byddai'r cynnig yn creu gormod o HMOs ar y stryd honno.
Prawf 3 - 'Prawf Peidio â Gwasgu'
- Ni fyddai'r datblygiad yn arwain at annedd Dosbarth C3 yn cael ei 'gwasgu' rhwng eiddo HMO cyfnesaf.
Cyn i chi gyflwyno cais cynllunio, gallwch wneud cais i gynnal y prawf crynhoad HMO ar eich eiddo. I wneud cais am y Prawf Cryhnoad HMO am gost o £95 y cais, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Strategol drwy ffonio 07814 105625 neu drwy e-bostio CDLl@abertawe.gov.uk
Sylwer ni ddylid defnyddio canlyniad y Prawf Crynhoad fel cadarnhad y bydd eich cais HMO yn cael caniatâd cynllunio neu beidio. Diben y prawf yw penderfynu, ar yr adeg benodol y cynhelir y prawf, os yw'r eiddo'n bodloni tair elfen y prawf crynhoad a restrir uchod. Gall canlyniadau'r prawf newid dros amser os caiff HMOs newydd eu sefydlu er enghraifft, ac/neu os ceir gwybodaeth newydd ynghylch natur yr eiddo yn yr ardal. Bydd angen i gais cynllunio ynghylch newid defnydd fodloni gofynion polisi eraill hefyd, gan gynnwys a yw'r eiddo'n addas i'w ddefnyddio fel HMO, oes ganddo amodau byw boddhaol a lle digonol ar gyfer amwynderau, ac a yw'r eiddo'n bodloni'r safonau angenrheidiol o ran parcio cerbydau a beiciau.
Ceisiadau cynllunio HMO a gymeradwywyd
Mae rhestr lawn o'r eiddo sydd wedi cael caniatâd cynllunio i fod yn HMO (Tai Amlfeddiannaeth) ers mis Chwefror 2016 pan ddaeth y 'Dosbarth Defnydd C4' i rym ar gael i'w gweld yn https://www.abertawe.gov.uk/ceisiadaucynllunioHMOcymeradwy
Cofrestr Gyhoeddus HMOs
Yn ôl Deddf Tai 2004 mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gynnal cofrestr gyhoeddus o eiddo sydd wedi'u trwyddedu fel HMO. Mae'r gofrestr ar gael i'w lawrlwytho o'r dudalen ganlynol: https://www.abertawe.gov.uk/cofrestrhmo