Adnoddau gwybodaeth i bobl anabl
Sefydliadau cefnogi ac adnoddau ar-lein i bobl anabl
Sefydliadau cefnogi
Mae nifer o sefydliadau, lleol a chenedlaethol, yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl anabl. Mae'r rhain yn cynnwys:
Cymdeithas Byw'n Annibynnol Abertawe (SAIL)Yn agor mewn ffenest newydd
Mae SAIL yn sefydliad gwirfoddol lleol o bobl annibynnol sy'n gweithio i ddileu'r hyn sy'n rhwystro pobl anabl rhag byw bywydau llawn ac annibynnol.
Mynediad i Bawb Abertawe (SAFE)Yn agor mewn ffenest newydd
Mae SAFE yn grwp mynediad lleol sy'n gweithio tuag at gyflawni amgylchedd adeiledig sy'n hygyrch i bawb.
Fforwm Anabledd AbertaweYn agor mewn ffenest newydd
Wedi'i rheoli gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, mae Fforwm Anabledd Abertawe yw fforwm sy'n cael ei redeg yn annibynnol, sy'n cynnwys pobl anabl, grwpiau anabledd, mudiadau gwirfoddol ac unigolion â diddordeb.
Ffôn: 01792 544035
Leonard Cheshire Discover ITYn agor mewn ffenest newydd
Canolfan galw heibio lle mae pobl yn cael eu cefnogi i fynd ar-lein, a leolir yng Nghanolfan Ddydd Cwmbwrla.
Ffôn: 01792 654013
Anabledd CymruYn agor mewn ffenest newydd
Sefydliad aelodaeth o grwpiau anabledd ar draws Cymru, yn hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pobl anabl a hyrwyddo'r model anabledd cymdeithasol.
Ffôn: 029 2088 7325
Hawliau Anabledd y DUYn agor mewn ffenest newydd
Sefydliad traws-anabledd a sefydlwyd trwy uno Cynghrair Anabledd, Radar a'r Ganolfan Byw'n Annibynnol Genedlaethol sy'n cael ei arwain a'i reoli gan bobl anabl.
Disabled Living FoundationYn agor mewn ffenest newydd
Elusen genedlaethol sy'n rhoi cyngor diduedd, gwybodaeth a hyfforddiant ar gymhorthion byw dyddiol.
Llinell gymorth: 0300 999 0004 (10 a.m. - 4 p.m. dydd Mawrth - dydd Iau)
Mae eu tudalennau Ask SaraYn agor mewn ffenest newydd yn darparu cyngor, arweiniad a gwybodaeth am gynnyrch sy'n gallu helpu gyda'ch iechyd, eich cartref a'ch gweithgareddau dyddiol.
Yr Ymddiriedolaeth AnableddauYn agor mewn ffenest newydd
Elusen genedlaethol sy'n rhoi atebion gofal, adsefydlu a chefnogi i bobl â namau corfforol dwys, anaf ymennydd caffaeledig ac anableddau dysgu, yn ogystal â phlant ac oedolion ag awtistiaeth.
Ffôn: 01444 239123
Independence at HomeYn agor mewn ffenest newydd
Elusen genedlaethol sy'n helpu pobl sydd â salwch neu anabledd tymor hir y mae angen cymorth ariannol arnynt i gael cyfarpar, addasiadau i'r cartref neu eitemau hanfodol eraill i wella eu hannibyniaeth gartref. Mae'n rhaid i bobl gael eu cyfeirio gan weithiwr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol neu elusen sydd mewn cysylltiad â'r person neu ei deulu.
Ffôn: 020 8427 7929
Diverse CymruYn agor mewn ffenest newydd
Sefydliad sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac sy'n herio gwahaniaethu.
Ffôn: 029 2036 8888
Adnoddau Ar-lein
- Mae gan wefan Gov.ukYn agor mewn ffenest newydd amrywiaeth eang o wybodaeth i bobl anabl, gan gynnwys cyllid, cyflogaeth a cludiant.
- Mae Cyfeiriadur Dinas Iach AbertweYn agor mewn ffenest newydd'n eich galluogi i chwilio am sefydliadau a grwpiau lleol a all gefnogi lles ac iechyd.
- Mae Focus on DisabilityYn agor mewn ffenest newydd yn adnodd ar-lein sy'n rhoi gwybodaeth i oedolion a phlant y mae ganddynt anabledd, anghenion gofal, salwch tymor hir neu broblem symudedd.