Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pam gwneud busnes gyda Chyngor Abertawe?

Mae'r cyngor yn gwario dros £250 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar ystod amrywiol o nwyddau, gwaith a gwasanaethau gan sefydliadau allanol.

Mae'r cyngor wedi dilyn ymagwedd rheoli categori wrthrefnu ei wariant, sef dull caffael strategol drwy grwpio cynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig gyda'i gilydd a threfnu adnoddau'r tîm caffael i ganolbwyntio ar wariant sefydliadau mewn categorïau penodol.

Mae gan y cyngor 9 categori o wariant ac mae'r rhain wedi eu rhannu'n 3 chategori cyffredinol:

  • gofal cymdeithasol (gofal cwmdeithasol i oedolion, addysg a gofal cymdeithasol plant)
  • yr amgylchedd (deunyddiau adeiladu, gwasanaethau adeiladu)
  • adnoddau corfforaethol (angenhion corfforaethol, rheoli cyfleusterau, TGCh, trafnidiaeth a'r fflyd, gwasanaethau proffesiynol).

Mae'r cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod ei weithgareddau caffael yn cael eu cyflawni'n effeithlon, yn gyfreithiol ac yn foesegol wrth gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol preswylwyr Abertawe. Yn gyffredinol, gwneir penderfyniadau nid yn unig ar sail y gost isaf ond ar sail gwerth am arian; gan ystyried ffactorau ansawdd a chostau oes gyfan, er enghraifft. Caiff yr holl gyflenwyr eu trin yn gyfartal a'u hasesu yn ôl rhinweddau eu tendr trwy ei werthuso yn ôl meini prawf dyfarnu datganedig.