Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestri plwyf yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Ydych chi'n chwilio am ble gall eich cyndadau wedi cael eu bedyddio, priodi neu gladdu? Dyma rhestr o'r holl gofrestri plwyf sy gyda ni.

Parish Registers 1
Yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg mae gennym gyfres da o gofrestri plwyf ar gyfer yr ardal rydym ni'n ei gwasanaethu. Oherwydd bod y rhain yn gofnodion poblogaidd, rydym wedi gwneud copïau i chi ddefnyddio yn yr ystafell ymchwilio, er mwyn achub y llyfrau gwreiddiol.Dyma ble gallwch chi eu gweld.

Ar gyfer y plwyfi hynafol, mae gennym hefyd gopïau ffacsimili o adysgrifau'r esgob ar ficroffilm. Roedd y rhain yn gopi dyblyg o gofrestri plwyf a anfonwyd yn rheolaidd i bencadlys yr esgobaeth. Maent yn aml yn cynnwys cofnodion cynharach na'r cofrestri plwyf sydd wedi goroesi, ond maent yn aml yn anghyflawn. Mae'r rhai gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Parish Registers 2
  Dyma map o'r plwyfi hynafol yn ein hardal ni. (PDF) [603KB]


Mae ein hardal wedi'i rhannu rhwng dwy esgobaeth: mae'r rhan orllewinol, sy'n cynnwys Abertawe, Gŵyr a Chwm Tawe, yn esgobaeth Abertawe a Aberhonddu. Rydym yn cadw'r cofnodion gwreiddiol ar gyfer y plwyfi yn yr ardal hon. Mae'r rhan ddwyreiniol, sy'n cynnwys Castell-nedd a Phort Talbot, yn esgobaeth Llandaf, ac er bod gennym gopïau ffacsimili, mae'r cofrestri gwreiddiol yn Archifau Morgannwg yng Nghaerdydd.

 

--------------------

Aberafan (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Santes Fair.

  • Bedyddiadau: 1748-1948
  • Priodasau: 1747-1947
  • Claddedigaethau: 1747-1955
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1696, 1722-1837

 

Aber-craf (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Cafodd eglwys Dewi Sant ei hadeiladu ym ym 1912 yn gapel anwes ym mhlwyf Ystradgynlais. Daeth yn blwyf ar wahân ym 1925. Cauwyd yr eglwys ym 2016.

  • Bedyddiadau: 1912-2016
  • Priodasau: 1912-1989

 

Abergwynfi gweler Avan Vale

 

Aberpergwm  (Esgobaeth Llandaff)

Eglwys wedi'i chysegru i San Cadoc, ar safle hen gapel anwes i Langatwg. Ffurfiwyd y plwyf ym 1861 o Langatwg a wedi'i cydio wrth Blaengwrach ym 1945.

  • Bedyddiadau: 1849-1986
  • Priodasau: 1837-1953, 1966-1981
  • Claddedigaethau: 1849-1987

 

Abertawe Eglwys Crist (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Wedi'i hadeiladu cyn 1872; ffurfiwyd y plwyf (yn cuddio ardal Abertawe y Sandfields) ym 1874 allan o Santes Fair. Roedd yn cynnwys St Faith's, wedi'i lleoli ger Neuadd y Ddinas

  • Bedyddiadau: 1872-1950
  • Priodasau: 1872-1971, 1994-2012

 

Abertawe Eglwys Ioan (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol yn Abertawe ag eglwys wedi'i chysegru i Sant Ioan. Lleolwyd yr eglwys yn wreiddiol ar Stryd Uchel, ond cafodd ei hail-adeiladu ar safle newydd yn Hafod ym 1879. Cafodd yr hen eglwys ei hail-adeiladu yn Abertawe San Matthew. Crewyd plwyf Manselton allan o hanner gogleddol y plwyf tua 1919.

  • Bedyddiadau: 1797-1800, 1813-1964
  • Priodasau: 1813-1970
  • Claddedigaethau: 1797-1800, 1813-1885
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1785-1837

 

Abertawe'r Drindod Sanctaidd (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf wedi'i ffurfio 1843 allan o Santes Fair. Dinistriwyd yr eglwys trwy bomio ym 1941 a chydiodd y plwyf wrth Santes Fair.

  • Bedyddiadau: 1856-1939
  • Priodasau: 1877-1941
  • Claddedigaethau: 1901-1916

 

Abertawe San Barnabas (Uplands) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Wedi'i hadeiladu ym 1914; ffurfiwyd y plwyf (yn cuddio ardal Glanmor-Uplands) was formed from o Abertawe Santes Fair ym 1928.

  • Bedyddiadau: 1915-1958
  • Priodasau: 1929-1971

 

Abertawe San Gabriel (Brynmill) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Adeiladwyd eglwys San Gabriel ym 1889 yn lle Eglwys Haearn San Mihangel yn gapel anwes i Abertawe Santes Fair, a agorodd ym 1886. Roedd y plwyf (sy'n cuddio ardal Abertawe Brynmill) yn cynnwys eglwys Sant Augustine, wedi'i hadeiladu ym 1898, wedi cau ym 1994 a dymchwelwyd wedyn.

Abertawe San Gabriel

  • Bedyddiadau: 1889-1973
  • Priodasau: 1890-2004

Abertawe Sant Augustine

  • Bedyddiadau: 1905-1994

 

Abertawe St Illtyd (Fforest-fach) gweler Abertawe San Pedr

 

Abertawe St James (Uplands) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Wedi'i gysegru ym 1867 fel capel anwes i Santes Fair, Abertawe; plwyf ar wahân wedi'i ffurfio ym 1985.

  • Bedyddiadau: 1867-1985
  • Priodasau: 1867-1979

 

Abertawe San Jude (Mount Pleasant) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Wedi'i hadeiladu ym 1915 yn gapel anwes i Abertawe Santes Fair, wedi'i ffurfio'n blwyf (yn cuddio ardal Mount Pleasant) ym 1920. Cafodd plwyf San Nicholas-ar-y-Bryn ei ffurfio allan o St Jude ym 1937. Cauwyd yr eglwys yn 2015 a chydiwyd y plwyf wrth San Nicholas-ar-y-Bryn.

  • Bedyddiadau: 1896-1965
  • Priodasau: 1896-2011

 

Abertawe San Luc (Cwmbwrla) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Adeiladwyd yn gapel anwes i San Pedr, y Cocyd, wedi'i ffurfio'n blwyf ym 1911. Cauwyd 2014.

  • Bedyddiadau: 1886-2013
  • Priodasau: 1890-2014

 

Abertawe San Marc (Waunwen) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Ffurfiwyd y plwyf, yn cuddio ardal Abertawe Waunwen, ym 1888 allan o Abertawe Santes Fair. Cauwyd yn 2011 a wedi'i dymchwel.

  • Bedyddiadau: 1888-1971
  • Priodasau: 1888-1970, 1995-2005

 

Abertawe Santes Fair (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol, a daeth allan ohono plwyfi Sgeti, Y Cocyd, ac Abertawe Saint Tomos, Iudas, Marc, Matthew, Gabriel, James a Barnabas, Eglwys Crist a Drindod Sanctaidd.

  • Bedyddiadau: 1631-1706, 1712-1941, 1959-1978
  • Priodasau: 1631-1706, 1712-1941, 1959-1989, 2006-2012
  • Claddedigaethau: 1631-1937; olion wedi'u amlosgi 1957-1979
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1676-1837

 

Abertawe San Matthew (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf wedi'i ffurfio ym 1886 o ddarnau plwyfi Abertawe Santes Fair ac Abertawe Eglwys Ioan. Mae'r eglwys ar safle'r hen Abertawe Eglwys Ioan, a ailadeiladwyd yn Hafod ym 1879. Cauwyd yr eglwys tua 2010. Roedd y plwyf hefyd yn cynnwys Eglwys Genhadol Greenhill.

Abertawe San Matthew: Eglwys San Matthew

  • Bedyddiadau: 1886-1992
  • Priodasau: 1886-2010
  • Claddedigaethau: 1887-1991

Abertawe San Matthew: Eglwys Genhadol Greenhill

  • Bedyddiadau: 1918-1962
  • Priodasau: 1927-1949

 

Abertawe San Nicholas (Seamen's Mission) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Eglwys Genhadol y Morwyr ar Ddoc y De ym mhlwyf Abertawe Santes Fair, wedi'i chau tua 1920

  • Bedyddiadau: 1886-1920
  • Priodasau: 1886-1920

 

Abertawe San Nicholas-ar-y-Bryn (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf yn cuddio Townhill wedi'i greu allan o Abertawe San Iudas ym 1937. Cysegrwyd yr eglwys i San Nicholas; roedd hefyd Eglwys Genhadol y Bugail Da, wedi'i hadeiladu tua 1927 a dinistrio trwy bomio ym 1941.

Abertawe San Nicholas-ar-y-Bryn: Eglwys San Nicholas

  • Bedyddiadau: 1924-1963
  • Priodasau: 1937-1989

Abertawe San Nicholas-ar-y-Bryn: Eglwys Genhadol y Bugail Da

  • Bedyddiadau: 1927-1946

 

Abertawe San Pedr, y Cocyd (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Wedi'i hadeiladu ym 1856 yn gapel anwes i Abertawe Santes Fair, a'r plwyf wedi'i ffurfio ym 1878. Daeth Waunarlwydd, Abertawe San Luc (Cwmbwrla) a Chaereithin ohono. Mae'r plwyf yn cynwys Sant Illtyd, Fforest-fach (wedi'i hadeiladu ym 1897) a San Deiniol, Skomer Place, agorwyd 1961, cauwyd tua 1970)

San Pedr, y Cocyd

  • Bedyddiadau: 1856-1987
  • Priodasau: 1857-1991
  • Claddedigaethau: 1856-1990

Sant Illtyd, Fforest-fach

  • Bedyddiadau: 1918-1998
  • Priodasau: 1911-1985
  • Claddedigaethau: 1911-1990

 

Abertawe San Tomos (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Ffurfiwyd y plwyf ym1888 allan o Abertawe Santes Fair; mae'r plwyf, sy'n cuddio ardal Abertawe San Tomos a Phort Tennant, yn cynnwys dwy eglwys: San Tomos, wedi'i hadeiladu ym 1886, a San Stephan, Port Tennant, wedi'i hadeiladu tua 1903.

Abertawe San Thomas: Eglwys San Tomos

  • Bedyddiadau: 1888-1981
  • Priodasau: 1888-1990, 2005-2016
  • Claddedigaethau olion wedi'u amlosgi: 1960-1993

Abertawe San Thomas: San Steffan, Port Tennant

  • Priodasau: 1903-1959

 

Baglan (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol yn cynnwys hen eglwys wedi'i chysegru i Santes Faglan (adfeilion erbyn hyn), ac eglwys 19fed ganrif wedi'i chysegru i San Catherine.

  • Bedyddiadau: 1769-1874
  • Priodasau: 1769-1923
  • Claddedigaethau: 1769-1904
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1721, 1723-1837

 

Blaengwrach (Esgobaeth Llandaff)

Eglwys wedi'i chysegru i Santes Fair; yn wreiddiol capel anwes i Glyncorrwg, ond daeth yn blwyf ar wahân ag Aberpergwm ym 1940.

  • Bedyddiadau: 1895-1970
  • Priodasau: 1837-1970
  • Claddedigaethau: 1895-1988

 

Bôn-y-maen: gweler Glantawe

 

Briton Ferry a Llansawel (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol; roedd yr eglwys wedi'i chysegru i Santes Fair yn eglwys y plwyf hyd at 1866 pan adeiladwyd eglwys newydd, wedi'i chysegru i San Clement. Daeth Santes Fair yn gapel anwes, ac ym 1913 daeth yn eglwys y plwyf ym mhlwyf newydd o'r enw Llansawel, a grewud allan o Briton Ferry. Cafodd San Clement wedi cau erbyn hyn a'r ddau blwyf wedi'u cydio â Santes Fair yn eglwys y plwyf. Roedd yna eglwys genhadol ym Mantyrheol, Briton Ferry, wedi'i chysegry i San Tomos, sydd bellach wedi cau.

Briton Ferry (Santes Fair hyd at 1866, San Clement wedyn)

  • Bedyddiadau: 1668-1969
  • Priodasau: 1668-1944
  • Claddedigaethau: 1686-1924
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1696, 1721-1837

Briton Ferry San Tomos

  • Bedyddiadau: 1936-1965

Llansawel Santes Fair

  • Bedyddiadau: 1913-1951
  • Priodasau: 1913-1940
  • Claddedigaethau: 1913-1965

 

Caereithin (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Wedi'i lleoli yn ardal Blaenymaes/Pen-lan o Abertawe, cafodd yr eglwys, wedi'i chysegru i San Teilo, ei hadeiladu ym 1953 yn gapel anwes ym mhlwyf y Cocyd. Daeth yn ddosbarth confensiynol ym 1979.

  • Priodasau: 1967-1990

 

Callwen (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Yn wreiddiol capel anwes i Defynnog, ond daeth yn blwyf ar wahân tua 1868. Wedi'i chysegru i Santes Callwen tan tua 1868, wedi'i henwu'n Gapel Colwyn neu San Colwen hefyd. Ail-gysegrwyd i Sant Ioan Bedyddwr tua 1964.

  • Bedyddiadau: 1685-1694, 1760-1958
  • Priodasau: 1685-1694, 1760-1808, 1840-1971
  • Claddedigaethau: 1685-1694, 1778-1958

 

Cas-Llwchwr (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Mihangel. Mae Eglwys Dewi Sant, Cas-Llwchwr (a agorwyd 1928) yn gapel anwes, ac roedd y plwyf yn cynnwys eglwys genhadol San Paul, Garden Village, wedi'i hadeiladu ym 1915 a chau yn 2002). Cafodd plwyf Tre-Gŵyr ei greu allan o blwyf Cas-Llwchwr tua 1920.

Cas-Llwchwr San Mihangel

  • Bedyddiadau: 1717-1993
  • Priodasau: 1717-1999
  • Claddedigaethau: 1717-1994
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1669-1837

Cas-Llwchwr, Dewi Sant

  • Priodasau: 1950-1996

Cas-LlwchwrSan Paul, Garden Village

  • Priodasau: 1950-1989

 

Cheriton (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Cadoc.

  • Bedyddiadau: 1813-1992
  • Priodasau: 1757-1969
  • Claddedigaethau: 1813-1989
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1671-1837m

 

Castell-nedd (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Tomos. Cafodd capel anwes wedi'i chysegru i Ddewi Sant ei hadeiladu ym 1867.

Castell-nedd San Tomos

  • Bedyddiadau: 1692-1940
  • Priodasau: 1692-2002
  • Claddedigaethau: 1692-1956
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1721-1837
  • Cofnodwyd bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau 1638-1647 a 1653-1679 yng nghofrestr lleyg Morgan Evan.

Castell-nedd Dewi Sant

  • Bedyddiadau: 1867-2003
  • Priodasau: 1923-2000

 

Cilâ (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Eglwys wedi'i chysegru i Sant Hilary. Ffurfiwyd y plwyf ym 1925 o ddarnau o Landeilo Ferwally a'r Sgeti. Replaced mission church of Dunvant St Martin, wedi'i hadeiladu ym 1897 (gweler isod). Cafodd eglwys San Martin, Dwfnant newydd ei hagor ym 1949.

Cilâ Santes Hilary

  • Bedyddiadau: 1935-1981
  • Priodasau: 1926-1997
  • Claddedigaethau: 1923-1980

Dwfnant San Martin

  • Bedyddiadau: 1897-1935
  • Priodasau: 1898-1923, 1952,1957

 

Cilfai (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Eglwys wedi'i chysegru i'r Holl Saint, wedi'i hadeiladu ym 1842. Ffurfiwyd y plwyf o Lansamlet ac Abertawe ym 1881. Roedd yn cynnwys eglwys genhadol ym Mhentrechwyth yn wreiddiol, sydd nawr ym mhlwyf Glantawe. Wedi cau yn 2015 a'i phlwyf wedi cydio wrth Abertawe San Tomos.

  • Bedyddiadau: 1845-2015
  • Priodasau: 1857-1997

 

Cilybebyll (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Sant Ioan.

  • Bedyddiadau: 1773-1931
  • Priodasau: 1813-1929
  • Claddedigaethau: 1768-1812
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1721-1837
  • Cofnodwyd bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau 1638-1647 a 1653-1679 yng nghofrestr lleyg Morgan Evan.

 

Clydach (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf a ffurfiwyd ym 1847 o Langyfelach a darn bach o Langatwg. Roedd tri eglwys yn y plwyf: Sant Ioan, Clydach (wedi'i hadeiladu 1847 a chau 2006), Santes Fair, Clydach (wedi'i hadeiladu 1905) a San Mihangel, Trebannws (wedi'i hadeiladu 1912).

Clydach Sant Ioan

  • Bedyddiadau: 1847-2003
  • Priodasau: 1847-1997
  • Claddedigaethau: 1847-1981

Clydach Santes Fair

  • Bedyddiadau: 1905-1982
  • Priodasau: 1905-2004

Clydach San Mihangel, Trebannws

  • Priodasau: 1912-2005

 

Clyne gweler Llwynderw

 

Coelbren (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Capel anwes i Ystradgynlais, wedi'i ffurfio'n blwyf tua 1863

  • Bedyddiadau: 1902-1925
  • Priodasau: 1863-2010
  • Claddedigaethau: 1902-1925

 

Y Creunant (Esgobaeth Llandaff)

Mae hen gapel anwes i Langatwg yn y Creunant; Cafodd eglwys San Margaret ei hadeiladu drws nesaf tua 1910 ac mae'n gapel anwes i Santes Fair, Blaendulais nawr.

  • Priodasau: 1838-1942
  • Claddedigaethau: 1879-1938

 

Cymer: gweler Dyffryn Afan

 

Dwfnant: gweler Cilâ

 

Dyffryn (Esgobaeth Llandaff)

Cafodd eglwys San Matthew, ger Bryncoch, ei hadeiladu gan y teulu Gwyn fel capel anwes i Langatweg Nedd tua 1871 a daeth yn blwyf ar wahân ym 1900.

  • Bedyddiadau: 1871-1965
  • Priodasau: 1874-1970
  • Claddedigaethau: 1872-1960

 

Dyffryn Afan (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf wedi'i greu ym 1906 o ddarnau o blwyfi Glyncorrwg a Llangynwyd, ag eglwysi San Gabriel, Abergwynfi (sy wedi cau erbyn hyn) a Sant Ioan Efengylydd, Cymer.

Abergwynfi San Gabriel

  • Bedyddiadau: 1907-1924
  • Priodasau: 1907-1985

Cymer Sant Ioan Efengylydd

  • Bedyddiadau: 1939-1988
  • Priodasau: 1927-1942, 1947-1981

 

Glais (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu) gweler Llansamlet

 

Glandŵr (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Eglwys wedi'i chysegru i San Paul. Eglwys genhadol ym mhlwyf Llangyfelach, wedi'i hadeiladu ym 1891. Crewyd y plwyf ym 1906. Wedi cau tua 2013 a'r plwyf wedi cydio wrth Treboeth.

  • Bedyddiadau: 1906-2003
  • Priodasau: 1891-2005

 

Glantawe (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf yn ardal Bôn-y-maen o Abertawe; yn cynnwys dau eglwys, Santes Margaret, Bôn-y-maen, wedi'i hadeiladu tua 1916 yn gapel anwes i Lansamlet, a San Pedr, Pentrechwyth, wedi'i hadeiladu tua 1910, yn wreiddiol fel eglwys genhadol ym mhlwyf Cilfai.

San Margaret, Bôn-y-maen

  • Bedyddiadau: 1931-1998
  • Priodasau: 1966-1971

San Pedr, Pentrechwyth

  • Priodasau: 1967-1979

 

Glyncorrwg (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Sant Ioan Efengylydd. Cafodd plwyfi Blaengwrach a Dyffryn Afan eu creu o Glyncorrwg.

  • Bedyddiadau: 1813-1988
  • Priodasau: 1813-1971
  • Claddedigaethau: 1813-1940
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1721-1837

 

Gorseinon (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu):

Eglwys wedi'i chysegru i San Catherine. Ffurfiwyd y plwyf allan o Landeilo Talybont ym 1913. Roedd yn cynnwys Eglwys y Drindod Sanctaidd gynt, wedi'i hadeiladu ym 1883 fel eglwys cenhadol ym mhlwyf Llandeilo Talybont, a throsglwyddwyd i blwyf Gorseinon ym 1914; wedi cau ym 1979 a wedi'i dymchwel wedyn.

Gorseinon Santes Catherine

  • Bedyddiadau: 1913-2011
  • Priodasau: 1914-2017

Gorseinon Y Drindod Sanctaidd

  • Bedyddiadau: 1892-1926
  • Priodasau: 1883-1978

 

Gowerton (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Capel anwes i Gas-Llwchwr wedi'i chysegru i Sant Ioan Efengylydd, wedi'i ffurfio'n blwyf tua 1920.

  • Bedyddiadau: 1869-2002
  • Priodasau: 1883-2006

 

Gwauncaegurwen (Tyddewi)

Plwyf wedi'i greu allan o ddarnau o Langiwg a hefyd Betws yn Sir Gaerfyrddin. Cysegrir yr eglwys yng Ngwauncaegurwen i Ddewi Sant.

  • Bedyddiadau: 1936-1976
  • Priodasau: 1892-1970

 

Llan y Tair Mair (Knelston) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys yn adfail wedi'i chysegru i San Maurice. Nid yw cofrestri plwyf ar wahan yn bodoli, ac mae cofrestri Llanddewi yn cynnwys cofnodion o Lan y Tair Mair a Llanddewi, serch hynny mae adysgrifau'r esgob ar wahân am dro.

  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1784-1794

 

Llanddewi (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol, Eglwys wedi'i chysegru i San David; mae'n cynnwys Llan y Tair Mair (Knelston).

  • Bedyddiadau: 1718-1978
  • Priodasau: 1718-1970
  • Claddedigaethau: 1718-1811
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1678-1837

 

Llandeilo Ferwallt (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol, Eglwys wedi'i chysegru i San Teilo. Daeth Cilâ o barth gogleddol y plwyf. Roedd Manselfield, nawr yn rhan blwyf Llandeilo Ferwallt, yn darn wedi'i didoli plwyf Nicholaston.

  • Bedyddiadau: 1716-2019
  • Priodasau: 1716-2019
  • Claddedigaethau: 1716-2006
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1671-1838

 

Llandeilo Talybont (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Teilo a hefyd capel anwes wedi'i gysegru i San Mihangel. Crewyd plwyf Gorseinon allan o blwyf Llandeilo Talybont.

Llandeilo Talybont St Teilo

  • Bedyddiadau: 1662-1757, 1782-1980
  • Priodasau: 1662-2006
  • Claddedigaethau: 1662-1757, 1782-1960
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1672-1837

Llandeilo Talybont San Mihangel

  • Priodasau: 1971-2011

 

Llanfihangel Ynys Afan (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Mihangel.

  • Bedyddiadau: 1785-1890
  • Priodasau: 1786-1930
  • Claddedigaethau: 1785-1890
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1696,1723-1837

 

Llangatwg (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol enfawr, ag eglwys wedi'i chysegru i San Catwg. Hen capeli anwes canoloesol yn y Creunant, Aberpergwm a ger Jersey Marine. Cafodd plwyfi Aberpergwm, Blaendulais, Sgiwen a Dyffryn eu creu o darnau'r plwyf hynafol.

  • Bedyddiadau: 1738-1965
  • Priodasau: 1738-1935
  • Claddedigaethau: 1738-1919
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1721-1837m
  • Cofnodwyd bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau 1638-1647 a 1653-1679 yng nghofrestr lleyg Morgan Evan.

 

Llangennith (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Cenydd.

  • Bedyddiadau: 1726-1825, 1855-1993
  • Priodasau: 1781-1971
  • Claddedigaethau: 1742-1971
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1671-1836

 

Llangiwg (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol â hen eglwys wedi'i chysegru i San Ciwg (wedi'i chau am wasanaeth Sul ym 2001). Mae plwyf Llangiwg yn cynnwys San Pedr, Pontardawe (wedi'i hadeiladu ym 1858-1862 gan William Parsons a'i chysegru ym 1862) a Santes Fair, Ynysmeudwy (wedi'i hadeiladu ym 1913, yn wreiddiol gan Mrs Illtyd Thomas, Glanmor, Abertawe, a'i chwblhau gan ei merch, Mrs F. W. Gilbertson). Cafodd Yr Holl Saint, Pontardawe, oedd wedi'i hadeiladu'n wreiddiol gan Arthur Gilbertson er cof ei dad William yn gapel anwes ym mhlwyf Sant Ioan, Clydach ym 1886, ei throsglwydo i blwyf Llangiwg ym 1903 a'i chau tua 2004. Cafodd Ystalyfera ei ffurfio allan o'r plwyf hwn ym 1911.

Llangiwg San Ciwg

  • Bedyddiadau: 1703-1767, 1813-1892
  • Priodasau: 1704-1979
  • Claddedigaethau: 1703-1767, 1813-2004
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1672-1837

Llangiwg Yr Holl Saint, Pontardawe

  • Bedyddiadau: 1887-1997
  • Priodasau: 1887-1979
  • Claddedigaethau: 1887-2004

Llangiwg Santes Fair, Ynysmeudwy

  • Bedyddiadau: 1913-1977
  • Priodasau: 1927-1988
  • Claddedigaethau: 1917-1983

Llangiwg San Pedr, Pontardawe

  • Bedyddiadau: 1862-1977
  • Priodasau: 1863-2008
  • Claddedigaethau: 1862-1997

 

Llangyfelach (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Saint Dewi a Chyfelach. Crewyd plwyfi Clydach, Penlle'rgaer, Glandwr a Threforys o ddarnau'r plwyf hynafol.

  • Bedyddiadau: 1693-1958
  • Priodasau: 1693-2008
  • Claddedigaethau: 1693-1968
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1795-1837

 

Llanilltyd Gŵyr (Ilston) (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Sant Illtyd.

  • Bedyddiadau: 1653-1699, 1730-1985
  • Priodasau: 1653-1699, 1730-1812, 1837-1950, 1971-2012
  • Claddedigaethau: 1653-1699, 1730-1992
  • Mae bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau 1653-1699 yn yr 'Ilston Book', sef copi o gofrestr a aeth i America gyda'r ficer y Parch. John Miles.
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm) 1672-1838

 

Llanilltud Nedd (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol ag eglwys ar ffin dwyreinol Castell-nedd wedi'i chysegru i Sant Illtud; Mae eglwysi Santes Catherine, Melincryddan a Saint Pedr a Paul, Cimla yn gapeli anwes. Crewyd plwyfi Tonna a Resolfen allan o'r plwyf hwn.

Llanilltud Nedd Sant Illtud

  • Bedyddiadau: 1695-2003
  • Priodasau: 1696-1985
  • Claddedigaethau: 1696-1937, 1959-2001
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1698-1837
  • Cofnodwyd bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau 1638-1647 a 1653-1679 yng nghofrestr lleyg Morgan Evan.

Llanilltud Nedd, Santes Catherine, Melincryddan

  • Bedyddiadau: 1891-1926
  • Priodasau: 1894-2004

Llanilltud Nedd, Saint Pedr a Paul's, Cimla

  • Priodasau: 1970-1972

 

Llanmadoc (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Madoc.

  • Bedyddiadau: 1724-1992
  • Priodasau: 1724-1757, 1813-1967
  • Claddedigaethau: 1724-1991
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1672-1835

 

Llanrhidian (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Eglwys wedi'i chysegru i Sant Rhidian a Sant Illtyd. Plwyf hynafol, y ddaeth Llanyrnewydd (Penclawdd) ohono. Mae'n cynnwys Eglwys Cenhadol Wernffrwd.

  • Bedyddiadau: 1783-1885
  • Priodasau: 1793-1837
  • Claddedigaethau: 1789-1908
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1671-1838

 

Llansamlet (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Samlet. Mae'r plwyf yn cynnwys dau gapel anwes, Sant Ioan, Birchgrove (wedi'i hadeiladu ym 1890-1891) a San Paul, y Glais (wedi'i hadeiladu ym 1881). Cafodd plwyfi Glantawe a Chilfai eu creu allan o blwyf Llansamlet.

Llansamlet San Samlet

  • Bedyddiadau: 1704-1981
  • Priodasau: 1704-1792, 1812-1992
  • Claddedigaethau: 1704-1983
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1672-1837

Llansamlet Sant Ioan, Birchgrove

  • Bedyddiadau: 1931-1973
  • Priodasau: 1954-1986

 

Llansamlet San Paul, y Glais

  • Priodasau: 1884-1977

 

Llansawel, gweler Briton Ferry

 

Llwynderw (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf wedi'i greu allan o ddosbarth gogleddol plwyf Ystumllwynarth, yn cynnwys dwy eglwys, Y Groes Sanctaidd, West Cross, a Capel Clun, Blackpill. Cafodd Capel Clun ei hadeiladu ym 1907 yn gapel anwes i Eglwys yr Holl Saint, Ystumllywnarth. Pan gafodd eglwys y Groes Sanctaidd ei hadeiladu ym 1956, crewyd plwyf Llwynderw.

Clyne Chapel, Blackpill

  • Bedyddiadau: 1908-1987
  • Priodasau: 1908-1988, 2012-2016

Church of the Holy Cross, West Cross

  • Priodasau: 1961-1970

 

Manselton (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Capel anwes i Abertawe Eglwys Ioan, wedi'i gysegru i San Mihangel a'r Holl Angylion. Wedi'i hadeiladu ym 1906 a wedi'i ffurfio'n blwyf ym 1920.

  • Bedyddiadau: 1911-2004
  • Priodasau: 1906-2015

 

Margam (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf hynafol; mae'r eglwys hynafol (a enwir yr hen eglwys) yn adfail; defnyddir Eglwys yr Abatty (wedi'i chysegru i Santes Fair) yn eglwys y plwyf. O blwyf Margam daeth plwyf Port Talbot San Theodore. Cafodd eglwys y Groes Sanctaidd ei hadeiladu'n gapel anwes i Margam, ond roedd ym mhlwyf Port Talbot cyn iddi gael ei chau yn y 2000oedd.

Margam (Eglwys yr Abatty)

  • Bedyddiadau: 1672-1951
  • Priodasau: 1675-1837
  • Claddedigaethau: 1672-1953

Margam Capel anwes, Port Talbot (Y Groes Sanctaidd)

  • Bedyddiadau: 1850-1895
  • Claddedigaethau: 1850-1895

 

Newton (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Cafodd eglwys San Pedr ei hadeiladu ym 1903 a'r plwyf wedi'i greu allan o blwyf Ystumllwynarth.

  • Bedyddiadau: 1903-1978
  • Priodasau: 1903-2016

 

Nicholaston (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Nicholas. Roedd gan y plwyf dosbarth ar wahân, Manselfield, a chydio wedyn wrth Landeilo Ferwallt.

  • Bedyddiadau: 1787-1985
  • Priodasau: 1797-2005
  • Claddedigaethau: 1788-1984
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1671-1837

 

Oakwood gyda Tonmawr (Esgobaeth Llandaff)

Plwyf wedi'i greu tua 1902 allan o blwyf Baglan. Cauwyd eglwys Oakwood a chydiwyd y plwyf wrth Gastell-nedd, a chafodd eglwys newydd wedi'i chysegru i San Teilo ei hagor yn Tonmawr yn 2003.

Oakwood gyda Tonmawr: Sant Ioan, Oakwood

  • Bedyddiadau: 1902-1942

Oakwood gyda Tonmawr: Eglwys Genhadol Tonmawr/San Teilo

  • Bedyddiadau: 1921-2004

 

Oxwich (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i St Illtyd.

  • Bedyddiadau: 1772-1846, 1854-1983
  • Priodasau: 1777-2000
  • Claddedigaethau: 1772-1984
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1672-1837

 

Penclawdd (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Capel anwes hynafol i Lanrhidian; eglwys wedi'i chysegru i San Gwynour. Cafodd y plwyf (Llanyrnewydd yn swyddogol) ei greu tua 1925.

  • Bedyddiadau: 1841-1884, 1907-1988
  • Priodasau: 1835-1971
  • Claddedigaethau: 1841-1890, 1907-1992

 

Penllergaer (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Eglwys wedi'i chysegru i San David, wedi'i hadeiladu tua 1850 yn gapel anwes i Langyfelach. Cafodd y plwyf ei greu ym 1937.

  • Bedyddiadau: 1865-1970
  • Priodasau: 1851-1998
  • Claddedigaethau: 1866-1961

 

Penmaen (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Sant Ioan Bedyddwr.

  • Bedyddiadau: 1765-1985
  • Priodasau: 1765-1970, 1997-2006
  • Claddedigaethau: 1768-1985
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1686-1837

 

Pennard (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Santes Fair.

  • Bedyddiadau: 1743-1965
  • Priodasau: 1743-2015
  • Claddedigaethau: 1743-1813
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1677-1837

 

Penrice (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Sant Andreas.

  • Bedyddiadau: 1728-1988
  • Priodasau: 1724-1773, 1837-1970
  • Claddedigaethau: 1724-1987
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1677-1837

 

Pentrechwyth gweler Glantawe

 

Port Eynon (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Cattwg.

  • Bedyddiadau: 1740-1921
  • Priodasau: 1741-1997
  • Claddedigaethau: 1741-1939
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1672-1837

 

Port Tennant gweler Abertawe San Thomas

 

Resolfen (Esgobaeth Llandaff)

Eglwys wedi'i chysegru i Ddewi Sant. Ffurfiwyd y plwyf ym 1850 o Lanilltud Nedd.

  • Bedyddiadau: 1850-1953
  • Priodasau: 1850-1919
  • Claddedigaethau: 1850-1993

 

Reynoldston (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Sior.

  • Bedyddiadau: 1713-1971
  • Priodasau: 1713-1786, 1813-2013
  • Claddedigaethau: 1713-1993
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1682-1837

 

Rhossili (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Santes Fair y Forwyn.

  • Bedyddiadau: 1641-1642, 1665-1978
  • Priodasau: 1665-1996
  • Claddedigaethau: 1642-1911
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1671-1837

 

Sgeti (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Agorwyd yr eglwys, wedi'i gysegru i San Paul, ym 1850 yn gapel anwes i Abertawe Santes Fair a wedi'i ffurfio'n blwyf ym 1851. Mae'n cynnwys Eglwys y Drindod Sanctaidd, Parc Sgeti, agorwyd 1969. Crewyd Tycoch allan o blwyf Sgeti ym 1966.

  • Bedyddiadau: 1850-1961
  • Priodasau: 1851-1984
  • Claddedigaethau: 1851-1993

 

Skewen (Esgobaeth Llandaff)

Eglwys wedi'i chysegru i Sant Ioan; Ffurfiwyd y plwyf ym 1844 o Langatwg

  • Bedyddiadau: 1850-1986
  • Priodasau: 1850-1993
  • Claddedigaethau: 1851-1992

 

Treboeth (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Cafodd eglwys gysegrwyd i Sant Alban wedi'i hadeiladu ym 1909 yn gapel anwes i Landŵr. Cafodd y plwyf ei greu tua 1926. Roedd yn cynnwys eglwys genhadol Pen-lan, a gauwyd tua 1997.

Treboeth, Sant Alban

  • Bedyddiadau: 1928-1957
  • Priodasau: 1929-2007

Treboeth, Eglwys Genhadol Pen-lan

  • Bedyddiadau: 1972-1996

 

Treforys (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Adeiladwyd eglwys wedi'i chysegru i Ddewi Sant ym 1891 yn gapel anwes i Langyfelach; ffurfiwyd yn blwyf ym 1924. Roedd hefyd yn cynnwys Eglwys Sant Ioan (Cymraeg; wedi cau'n ddiweddar) a adeiladwyd cyn 1851.

Treforys Sant Ioan

  • Priodasau: 1891-1971

Caplaniaeth Ysbytty Treforys

  • Bedyddiadau: 1961-1987

 

Tycoch (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Roedd yr eglwys, wedi'i chysegru i'r Holl Saint, yn wreiddiol yn gapel anwes ym mhlwyf Sgeti, wedi'i agor ym 1957. Ffurfiwyd y plwyf ym 1966.

  • Priodasau: 1966-1991

 

Waunarlwydd (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Cafodd eglwys San Barnabas ei hadeiladu ym 1888 yn gapel anwes ym mhlwyf y Cocyd, ond daeth yn rhan plwyf Tregŵyr ym 1920 a phlwyf ar wahân o 1980.

  • Bedyddiadau: 1888-1995
  • Priodasau: 1892-2005
  • Claddedigaethau: 1895-1992

 

West Cross gweler  Llwynderw

 

Ystalyfera (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf wedi'i ffurfio ym 1903 allan o Langiwg. Roedd dwy eglwys gynt, wedi'u hadeiladu yn gapeli anwes i Langiwg. Cafodd Eglwys y Drindod Sanctaidd ei hadeiladu tua 1859 yng Ngodre'rgraig a chau ym 1979 ac Eglwys Dewi Sant ei hadeiladu ym 1890 yn Ystalyfera.

Ystalyfera y Drindod Sanctaidd, Godre'rgraig

  • Bedyddiadau: 1874-1917
  • Priodasau: 1859-1979
  • Claddedigaethau: 1868-1934

Ystalyfera Dewi Sant

  • Bedyddiadau: 1890-1981
  • Priodasau: 1903-1971, 1985-2007
  • Claddedigaethau: 1934-1991

 

Ystradfellte (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i Santes Fair.

  • Bedyddiadau: 1759-1959
  • Priodasau: 1754-1970
  • Claddedigaethau: 1759-1882

 

Ystradgynlais (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i San Cynog. Daeth capeli anwes yng Nghoelbren ac Aber-craf yn blwyfi ar wahân yn tua 1863 a 1925.

  • Bedyddiadau: 1721-2012
  • Priodasau: 1721-1971
  • Claddedigaethau: 1721-1990

 

Ystumllwynarth (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu)

Plwyf hynafol ag eglwys wedi'i chysegru i'r Holl Saint; mae hefyd eglwys genhadol yn Norton. Cafodd plwyfi Newton a Llwynderw eu creu allan o Ystumllwynarth.

  • Bedyddiadau: 1719-1961
  • Priodasau: 1719-1950
  • Claddedigaethau: 1719-1954
  • Adysgrifau'r esgob (microffilm): 1672-1837
Close Dewis iaith