Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwnewch gais ar-lein i'ch busnes bwyd gael ail arolygiad

Os ydych wedi gwneud gwelliannau ers eich ymweliad diwethaf, gallwch ofyn am ail arolygiad. Codir tâl o £180 i wneud hyn.

Gallwch wneud cais ar-lein a thalu am yr ail arolygiad trwy ddefnyddio'r ffurflen isod.

Fel gweithredwr busnes bwyd mae gennych hawl, o dan adran 12 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, i wneud cais ar unrhyw adeg am arolygiad at y diben o ailsgorio, ar yr amod eich bod wedi talu costau rhesymol yr ailsgorio yn unol ag adran 13 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (oni fydd yr awdurdod bwyd wedi ymatal rhag gofyn am dalu'r costau hynny ymlaen llaw - fel y darperir ar ei gyfer yn adran 12(6) o'r Ddeddf, ac os felly, ceir talu'r costau ar ôl cwblhau'r arolygiad ailsgorio) ac os bodlonir hefydyr amodau canlynol:

  • bod unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd bresennol wedi ei phenderfynu
  • eich bod wedi hysbysu'r awdurdod bwyd y gwnaed gwelliannau yn safonau hylendid y sefydliad
  • bod yr awdurdod bwyd o'r farn y byddai'n rhesymol arolygu ac asesu'r sefydliad ymhellach oherwydd y gwelliannau yr honnir eu bod wedi'u gwneud
  • bod y sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol yn cael ei arddangos yn eich sefydliad yn unol â gofynion adran 7 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a rheoliad 9 o Reoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
  • eich bod wedi cytuno i sicrhau y caniateir mynediad i'r awdurdod bwyd i gynnal arolygiad o'r sefydliad at y diben o ailsgorio.
Close Dewis iaith