Rhaglen chwaraeon arobryn yn ei hôl.
Mae ein rhaglenni a gweithgareddau chwaraeon arobryn Us Girls a ParkLives yn eu hôl ar gyfer gwyliau'r haf.
Bydd pythefnos o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn dechrau ar 17 Awst ar gyfer cymunedau ar draws y ddinas mewn ffordd ddiogel ac wrth gadw pellter cymdeithasol.
Mae'r rhaglen am ddim yn cynnwys ffitrwydd, dawns a gweithgareddau eraill sy'n ymwneud ag iechyd yn yr awyr agored mewn parciau fel Brynmill, Ravenhill, Ynystawe a Pharc Llewellyn.
Mae Us Girls ar gyfer merched 8 i 14 oed ac mae ParkLives yn agored i bawb.
Mae sesiynau gweithgareddau Us Girls yn para awr, ac maen nhw'n cynnwys sesiynau dawns gyda hyfforddwyr cymwysedig a fydd yn sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu cynnal gan ddilyn canllawiau atal Coronafeirws y Llywodraeth.
Bydd ParkLives yn darparu gweithgareddau am ddim mewn parciau lleol hefyd, gan annog pobl i fod yn heini a mwynhau eu mannau gwyrdd yn eu cymuned leol.
Mae rhaglen yr haf yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau gweithgareddau difyr a ddyluniwyd i fod yn groesawgar i bobl o bob oedran a gallu. Mae'r gweithgareddau, sydd wedi'u hamserlenni, fel arfer yn para awr a chânt eu harwain gan arweinwyr sesiwn cefnogol a chyfeillgar a gwirfoddolwyr o'r cymunedau lleol.
Oherwydd y cyfyngiadau presennol, bydd sesiynau ParkLives yn gyfyngedig i lawntiau bowlio yn y parciau canlynol:Parc Brynmill, Parc Ravenhill, Parc Llewelyn a Pharc Ynystawe. Bydd hyn yn sicrhau bod y sesiynau'n ddiogel i staff a chyfranogwyr.
Mae'r tîm Chwaraeon ac Iechyd yn gofyn i chi beidio â dod i sesiwn os ydych wedi cael y canlynol yn ystod y 2 wythnos diwethaf:
- peswch parhaus newydd
- tymheredd uchel
- colli synnwyr arogli neu flasu neu brofi newid iddynt
- bod mewn cysylltiad ag unrhyw un â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif
- yn gorfod bodloni unrhyw ofynion i fod mewn cwarantin e.e. ar ôl dychwelyd o dramor
Gan fod holl sesiynau Us Girls a ParkLives yn yr awyr agored, maen nhw'n ddibynnol ar y tywydd.
Ac er y gellir ymuno â'r rhaglenni hyn am ddim, rhaid cadw lle ym mhob sesiwn o flaen llaw.
Ceir rhagor o fanylion ar y wefan yma:
- Us Girls: https://www.abertawe.gov.uk/usgirls
- ParkLives: https://www.abertawe.gov.uk/parklives