Pum llyfrgell ychwanegol yn Abertawe'n ailddechrau gwasanaethau.
Mae pobl sy'n dwlu ar ddarllen yn cael cyfle i archebu llyfrau unwaith eto mewn pum llyfrgell gymunedol ychwanegol yn Abertawe.
Wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio o hyd, mae Cyngor Abertawe'n ehangu ei wasanaeth 'Ffonio a Chasglu' llyfrau llyfrgell i gymunedau Brynhyfryd, Llansamlet, Pen-lan, Pennard a Sgeti.
Mae hyn yn dilyn lansiad llwyddiannus y gwasanaeth yn llyfrgelloedd Abertawe Ganolog, Gorseinon, Treforys ac Ystumllwynarth ym mis Mehefin.
Mae'r cyngor hefyd yn ailgyflwyno gwasanaeth mewn naw llyfrgell a fydd yn caniatáu i ymwelwyr fynd i'r llyfrgell i ddefnyddio gwasanaeth cyfrifiaduron personol ac argraffu cyfyngedig y bydd angen cadw lle ymlaen llaw ar ei gyfer.
Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod gwasanaethau'r llyfrgell yn cael eu hehangu'n ofalus er mwyn ceisio sicrhau bod defnyddwyr a staff yn parhau i fod yn ddiogel.
Ychwanegodd, "Mae diogelwch ein cwsmeriaid a'n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni ac rydym yn parhau i ystyried ehangu'r gwasanaethau presennol yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru."
Mae'n rhaid trefnu'r gwasanaeth Ffonio a Chasglu ymlaen llaw a gall defnyddwyr fenthyca hyd at 10 o eitemau am dair wythnos. Caiff benthyciadau eu hadnewyddu'n awtomatig os na chânt eu dychwelyd erbyn y dyddiad dychwelyd. Caiff yr holl lyfrau a ddychwelir eu cadw mewn cwarantîn am 72 o oriau cyn iddynt gael eu rhyddhau unwaith eto.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Ffonio a Chasglu yma: https://www.abertawe.gov.uk/archebullyfr.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y gwasanaeth cyfrifiaduron personol ac argraffu yma: https://www.abertawe.gov.uk/cadwcyfrifiadur. Dylai'r rheini sydd am ddefnyddio'r gwasanaethau llungopïo ac argraffu ddod â'r arian parod cywir i dalu am eu hallbrintiau/copïau i leihau'r driniaeth o arian parod.
Mae'n rhaid cadw lle ymlaen llaw - bydd eich llyfrau'n barod ac yn aros amdanoch chi yn y llyfrgell a chaiff cyfrifiadur personol dynodedig ei gadw i chi.
Peidiwch ag ymweld â'r llyfrgell os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn hunanynysu neu'n dangos symptomau Coronafeirws.
Cofrestrwch ar-lein i ddod yn aelod o'r llyfrgell a dechrau mwynhau defnyddio'n holl adnoddau ar-lein:www.abertawe.gov.uk/ymunoallyfrgell