Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Diffoddiaduron tân awtomatig (taenellwyr)

Mae rheoliadau adeiladu yng Nghymru'n nodi bod yn rhaid gosod system diffoddiaduron tân awtomatig (a adwaenir yn gyffredinol fel system taenellu dŵr) mewn cartrefi newydd a chartrefi a addaswyd.

Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i bob cartref a fflat sydd newydd ei adeiladu neu sydd wedi cael newid sylweddol i ddefnydd ers 1 Ionawr 2016. Mae hyn yn cynnwys:

  • tai a fflatiau newydd
  • cartrefi gofal
  • ystafelloedd at ddibenion preswyl (heblaw am ystafelloedd mewn gwesty, ysbyty, carchar neu hostel hamdden arhosiad byr)
  • cartrefi grŵp cofrestredig neu dai lloches / gyfadeiladau byw'n annibynnol

Rhaid penodi person cymwys i ddylunio a gosod y system. Dylid derbyn tystysgrif gydymffurfio gan y gosodwr cymwys.

Close Dewis iaith